News & EventsLatest NewsCalendar
Match report Nant Conwy v Y Bala Rhagfyr 29ain 2019

Match report Nant Conwy v Y Bala Rhagfyr 29ain 2019

Martin Thomas15 Jan 2019 - 22:43
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Match report Nant Conwy v Y Bala Rhagfyr 29ain 2019

Mae Sgwar Ancaster ynghanol Llanrwst wedi’i enwi ar ôl Dug Ancaster. Priododd ag un o ferched y Wyniaid yn 1678. Bertie oedd ei enw ac aeth ati i osod ei stamp ar y dre. Ynghanol Llanrwst roedd ‘ne fryncyn, siap pwdin dolig – Bryn y Boten, o’i gyfieithu i’r Saesneg- Pudding Hill. Doedd Bertie dim yn hoffi fod trigoion Llanrwst yn cael eu hadnabod fel haid o bwdins ac aeth ati i chwalu’r bryncyn a chreu Sgwar Ancaster, fel mae’n cael ei adnabod heddiw. Fel Bertie, roedd sylfaenwyr Clwb Rygbi Nant Conwy’n ceisio osgoi cael eu galw’n haid o bwdins a dyna pam y defnyddiwyd tarw du nerthol fel eu symbol. Ond feder neb ddadlau efo hanes - Clwb Rygbi’r Pwdins ddylai Clwb Nant gael ei alw.
Wrth wylio’r ddau dîm yn cynhesu, roedd hi’n amlwg mai brwydr oedd hon am fod. Dau elyn yn awchu am yr hawl i sgwario tan y gêm nesa rhyngddynt. Nant aeth ar y blaen 3-0 cyn i’r brodyr Puw, Owain a Ceredig, gyfuno’n wych a gwneud lle i Owain sgorio dan y pyst, 3-7. Roedd hi’n gêm dynn ofnadwy heb fawr o gyfleoedd, ond llwyddodd Nant i hollti amddiffyn Y Bala a sgorio cais, 8-7. Taniodd hyn flaenwyr y Bala ac ar ôl gwthiad yn agos at linell Nant, llwyddodd Dochan i sgorio cais, 8-12. Rheolodd Nant am gyfnodau hir yn yr ail hanner, cyn sgorio ail gais ac yna cic gosb i’w gwneud yn 18-12. Pan oedd cefnogwyr Nant yn dechrau dathlu, tarodd Owain gic gosb rhwng y pyst cyn i Rhydian ddangos ei gyflymder wrth gicio’r bêl o hanner ffordd a sgorio cais i ennill y gêm. Trosodd Owain gic gosb arall i rwbio halen yn y briw – 18-25. Roedd y gêm yn hysbyseb gwych i rygbi cefn gwlad - er y cleisiau, pawb yn cofleidio’i gilydd ar y diwedd, er fod tîm Nant yn fodlon cyfadde eu bod wedi bwyta gormod o bwdin dos yr Wyl!

Further reading