News & EventsLatest NewsCalendar
Rhuthun 22 v 13 Y Bala

Rhuthun 22 v 13 Y Bala

Gary Williams18 Sep 2018 - 20:23
Share via
FacebookX
https://www.pitchero.com/clubs

Report from Saturday's Division One North league game at Ruthin.

Maen debyg i’r dyn cyntefig roi’r gorau i hela a symud allan o’r ogofâu mewn ardaloedd fel Y Bala, Llandderfel a Llangwm o gwmpas 500-600 O.C. (Parhaodd yr arferiad o fyw mewn ogofâu a hela wiwerod a madfallod yn Llanuwchllyn tan rhyw chydig flynyddoedd yn ôl, pan ddechreuodd Tesco ‘neud home deliveries yno.) Roedd byw mewn tai moethus am y tro cyntaf yn golygu bod dynion a gwragedd yn rhoi pwysau ‘mlaen ac yn diflasu ar gicio’u sodlau felly roedd rhaid meddwl am ffyrdd o gadw’n heini a diddanu eu hunain. Dyma pryd y sylweddolodd anwariaid Penllyn ac Edeirnion mai hwyl fyddai teithio i Rhuthun bob penwythnos a rhoi cweir i’r byddigions oedd yn byw o gwmpas y castell mawreddog oedd wedi cael ei adeiladu yno, cyn dychwelyd i’r Plas Coch am ddeg peint a chyfri faint o ddannedd oedd ar ôl yn eu cegau. Parhaodd yr arferiad yma am ganrifoedd, er i Thomas Charles geisio rhoi taw ar y cyfan drwy rannu beiblau. Ceisiodd ustusiaid Rhuthun hefyd ddychryn yr ymosodwyr drwy adeiladu carchar ond dianc ohono bob tro wnaeth un o arweinwyr yr ymosodiadau, Coch Bach. Y Sadwrn dwytha roedd pobol Rhuthun yn barod am gweir arall, ond nid felly y bu. Penderfynodd pymtheg dewr mai digon oedd digon.

Wythnos dwytha roedd gen i gŵyn am y reffari di-glem. Chwarae teg, roedd y dyn yn y canol ddydd Sadwrn yn gwybod y rheolau, ond ei fod o’n benderfynol o ddangos hynny i bawb, gan stopio’r gêm bob dau funud i roi pregeth i hwn a’r llall. Fel dudodd yr unig wir Barchedig sydd ar ôl yng Ngogledd Cymru, H.D. Jones “Waeth iddo fo heb â phregethu, ‘does neb yn gwrando a mae peryg iddo yrru’r dorf i gysgu!” Roedd yno dorf dda yn gwylioi a rhaid canmol Rhuthun am ysbryd cymeithasol y clwb. Roedd amryw o ochrau Corwen yno’n mwynhau a chefnogi Rhuthun – tasen nhw’n gwybod rwbeth am hen frwydrau’r gorffennol, mi fasent yn cefnogi gwŷr Penllyn. Tase gan yr hen Owain Glyndŵr druan fedd, mi fase fo’n troi ynddo.

Roedd gan Y Bala bwynt i’w brofi ar ôl colli’n drwm yn erbyn Nant yr wythnos dwytha ac roedd dipyn mwy o dân yn eu boliau, er mai Rhuthun reolodd yr hanner cyntaf a mynd ar y blaen o 12-3 ar yr hanner. Doedd blaenwyr Y Bala ddim yn chwilio am gymorth wrth redeg efo’r bêl ac roedd yr amddiffyn hefyd yn euog o adael bylchau i wibwyr cyflym Rhuthun. Y Bala reolodd yr ail hanner am gyfnodau hir a gyda Llion Jones yn dechrau fel mewnwr am y tro cyntaf a Dion Atherton yn symud i rif 10, creodd y ddau argraff dda gan roi opsiynau i Gwgs, yr hyfforddwr, ar gyfer y dyfodol. Pêl sydyn oedd ei hangen a phan oedd hyn yn digwydd roedd Rhydian yn gallu creu problemau i Rhuthun a fo sgoriodd bwyntiau’r Bala i gyd – dau gais ac un gic gosb. Yn anffodus, sgoriodd Rhuthun fwy o bwyntiau ond roedd yn gêm agos, gystadleuol yn cael ei chwarae yn yr ysbryd cywir, er gwaetha’r canrifoedd o frwydro rhwng y ddwy ardal. Yr Wyddgrug fydd y gwrthwynebwyr y penwythnos nesaf. Mae angen dechrau arferiad o roi cweir iawn i rhein hefyd.

Gohebydd y Wasg

Further reading