News & EventsLatest NewsCalendar
Stwiardio Maesydd Parcio Eisteddfod Yr Urdd 2014

Stwiardio Maesydd Parcio Eisteddfod Yr Urdd 2014

Martin Thomas8 Jun 2014 - 21:12
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Diolch i'r holl stiwardiau

Ar ran y Clwb Rygbi hoffem ddiolch i bob un o’r gwirfoddolwyr a gyfrannodd eu hamser i helpu stiwardio Meysydd Parcio Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014.

Mi fydd yr arian a gawsom gan yr Urdd yn mynd tuag at “Freuddwyd Yogi” o gael estyniad i’r clwb er mwyn cael gwell cyfleusterau bwyta a chyfarfod i’r plant ifanc.

Dyma oedd ymateb Trefnydd yr Eistedfod:

“Diolch o galon am holl waith y Clwb Rygbi yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Roedd gwaith effeithiol y stiwardiaid parcio yn ffactor bwysig yn llwyddiant yr Eisteddfod.
Roedd popeth wedi gweithio’n arbennig yn dda, a’r cydweithio rhwng staff yr a’r Clwb Rygbi wedi golygu bod ymwelwyr i’r Eisteddfod wedi gallu parcio’n ddidrafferth.
Roedd hi’n braf gweld y criw yn gwenu ymhob tywydd. Mae amryw o bobl wedi dod ata’i i ganmol gwaith y Clwb Rygbi, felly a wnei di drosglwyddo fy niolch i bawb oedd wedi cynorthwyo yn ystod yr wythnos”.

Further reading