Club app icon

Pitchero Club

The best way to keep up to date with Clwb Rygbi Y Bala

View

Bala 1st XV - Match centre

Caernarfon
Bala
Full time
E Evans
R Jones (2)
Sat 26 Nov 13:30 - WRU National Leagues - North Wales Division One

Match Report Caernarfon v Bala Tachwedd 26ain 2016

Match Report Caernarfon v Bala Tachwedd 26ain 2016

Roedd Edward y Cyntaf yn dipyn o fwli ac mi ddaeth i Gaernarfon gan orfodi pawb i wneud fel yr oedd o’n ddweud. Roedd o’n hoff iawn o glywed ei lais ei hun a dyna pam yr adeiladodd o dyrrau uchel fel Twr yr Eryr yn ei gastell, fel bod y werin datws yn ei glywed o’n gweiddi arnynt bob bore ar ôl siafio. Mae amryw o grefyddau’n credu ein bod yn cael ein hail-eni mewn gwahanol ffurf, yn llyffint, sgwarnogod neu’n berson o’r Parc! Bnawn Sadwrn, fe ddaeth Edward y Cyntaf yn ei ôl fel reffarî o ochrau Manceinion yn wreiddiol. Yn anffodus i bawb, doedd ‘ne ddim rygbi yn nyddiau Edward y Cyntaf a’r gêm boblogaidd oedd chwarteru pobol a’u llusgo wrth raff tu ôl i geffylau. Mae rygbi’n gêm dipyn mwy barbaraidd ac felly’n gofyn am wybodaeth dipyn mwy trylwr o’r rheolau ond roedd y reffarî yma’n gwbwl ddi-glem a llwyddodd i ddifetha’r gêm i’r ddau dîm gan fod ei chwiban yn sownd rhwng bochau ei ben-ôl a threuliodd y gêm gyfan yn torri gwynt.

Dechreuodd y gêm ar dempo uchel, gyda’r ddau dîm yn awyddus i ledu’r bêl. Cafodd Y Bala feddiant am gyfnod, gyda’r blaenwyr yn rhedeg onglau gwych ac yn rhoi pêl lân i’r olwyr. Gweithiodd Y Bala eu ffordd i ddwy ar hugain y Cofis ac ar ôl amsugno’r amddiffynnwyr, lledwyd y bêl a bylchodd Elgan T’Isa a churo dau amddifynnwr cyn tirio am gais i’r Bala a Rhydian yn llwyddiannus gyda’r gic, 0-7 a phethau’n edrych yn addawol.
Y Bala fu’n rheoli’r gêm wedyn, gan ddominyddu’r sgrym a dylai cais cosb fod wedi dod i’r Bala ar ôl ambell gic gosb ond newid ei feddwl wnaeth y dyfarnwr a chosbi’r Bala. Bu bron i Robin lwyddo i sgorio o hanner ffordd ar ôl rhediad nerthol ond cafodd ei daclo fodfeddi o’r lein.
Llwyddodd Caernarfon gyda chic gosb, cyn taro’n ôl gyda chais eu hunain, 10-17. Digon hafal fu gweddill yr hanner gydag amddiffyn da y ddau dîm yn dod i’r brig ond gwelwyd ambell lygedyn positif gyda Miall yn cario’r bêl yn dda ar yr asgell.
Digon tawel fu’r ail hanner, gyda’r reffari yn fwy amlwg na neb. Llwyddodd Caernarfon gyda dwy gic gosb arall, i ledaenu eu mantais, cyn i’r Bala daro’n ôl yn y chwarter awr olaf, gan ennill cais cosb wrth yrru’r sgrym dros y llinell ambell waith ac er iddynt bwyso am weddill y gêm, nid oedd mwy o bwyntiau i ddod. Y sgôr derfynol felly’n 16-14. Diolch i bawb ddaeth i gefnogi, gêm gartref yn erbyn Bethesda fydd hi’r wythnos nesaf.

Guto Lynch

Key moments

2:00
Try Elgan Evans scores for Bala
3:00
Conversion Rhydian Jones kicks a conversion for Bala
39:00
Conversion Rhydian Jones kicks a conversion for Bala

Highlights

View 0 new events
39:00 Conversion 0 - 14
Rhydian Jones kicks a conversion for Bala
38:00 Penalty Try
Penalty try awarded to Bala
35:00 Sub On
Endaf Jones is substituted on for Bala
20:00 Sub On
Gareth Macrae is substituted on for Bala
20:00 Sub On
Owain Puw is substituted on for Bala
10:00 Sub On
Mathew Befan is substituted on for Bala
10:00 Sub On
Guto Lynch is substituted on for Bala
End of period 1
3:00 Conversion 0 - 7
Rhydian Jones kicks a conversion for Bala
2:00 Try 0 - 5
Elgan Evans scores for Bala
Start of the game
Replay game

As it happened

  • Caernarfon
  • Bala
  • 0
  • Elgan Evans Try 2:00'
  • Rhydian Jones Conversion 3:00'
  • Mathew Befan Sub On 10:00'
  • Guto Lynch Sub On 10:00'
  • Gareth Macrae Sub On 20:00'
  • Owain Puw Sub On 20:00'
  • Endaf Jones Sub On 35:00'
  • Penalty Try 38:00'
  • Rhydian Jones Conversion 39:00'

Team selection

Team selection has not been published for this fixture yet.

League round up

Other North Wales Division One results

22
25
Ruthin
Bethesda
13
19
P
P
Pwllheli

Comments

Loading comments

League table

# Team Pl Pts
1. Pwllheli 22 103
2. Nant Conwy 22 101
3. Caernarfon 22 78
4. Bala 22 73
5. Llandudno 22 55
6. Mold 22 55
7. Bro Ffestiniog 22 45

Team sponsor

Club sponsors