News & EventsLatest NewsCalendar
Neges gan y Llywydd.

Neges gan y Llywydd.

Carwyn Jones5 Jan 2016 - 21:22
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Diolch i Arwel Jones am ysrgrifennu'r darn yma.

TWM JOHN

Yn ystod oriau man y bore ar ddiwrnod olaf 2015 fe gollodd Clwb Peldroed Llanberis un o’r cewri – Thomas John Roberts i’r anghyfarwydd, ond Twm John i ni.
Ar ol gorffen chwarae fel golwr i’r Darans ddiwedd pedwardegau y ganrif ddiwethaf fe ymgymerodd Twm a dyletswyddau rhedeg y clwb. “Ar ol cael cymaint o bleser allan o’r gem”, meddai rhydro,”roeddwn yn benderfynol o roi rhywbeth yn ol iddi”. A dyna a wnaeth. Does gen i ddim cof i neb roi cymaint o’i amser i’r gymdeithas beldroed yn Llanberis na Twm. Dyma ddyn oedd yn fodlon ysgwyddo cyfrifoldebau gweinyddol yn ogystal a rhai ymarferol er budd y clwb. Dyma gyn Gadeirydd y clwb ac ar yr un pryd dyma’r dyn a godai’n blygeiniol ar foreau Sadwrn ymhob tywydd i baratoi y cae (a gwae i’r sawl oedd ddigon dewr neu ffol Iiddweud yn ei wyneb fod rhai o’r llinellau’n gam!) Dyma’r dyn roddodd o’ wirfodd i sicrhau fod ieuenctid y fro yn cael cyfle i fwynhau rhinweddau’r gem. Roedd rhoi cyfle i fechgyn ifanc i droi at y gem yn bwysig i Twm, a gwn o siarad a niferoedd ohonynt fod timau Twm John wedi bod yn gyfrwng i lenwi a chyfoethogi eu bywydau, ymghyd a rhoi yr hwb a’r hyder angenrheidiol yna i’w galluogi i symud ymlaen i lefelau uwch a serenu. ‘Dwi mor falch fod y Clwb wedi ei anrhydeddu ac i Gymdeithas Peldroed Cymru gydnabod ei wasanaeth drwy ei wneud yn Aelod Oes. Ar ran fy hun fel Llywydd y Clwb, ac ar ran Eurwyn Thomas, y Cadeirydd presennol, ynghyd a’i swyddogion, aelodau o’i bwyllgor, gwirfoddolwyr, cefnogwyr ac wrth gwrs cyn chwaraewyr a chwaraewyr presennol Y Darans ddatgan ein cydymdeimlad dwysaf a’r teulu oll.

Arwel Jones. Llywydd Clwb Peldroed Llanberis.

Further reading