News & EventsLatest NewsCalendar
Newyddion trist i'r Clwb

Newyddion trist i'r Clwb

Carwyn Jones2 Jan 2016 - 21:52
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Sad news for Llanberis Football Club

Ar ddydd olaf y flwyddyn, dydd Iau Rhagfyr 31, bu farw Thomas John Roberts (neu Twm John i bawb oedd yn ei adnabod), yn 89 mlwydd oed. Roedd Twm John yn un o ffyddloniaid Clwb Pêl-droed Llanberis ers blynyddoedd lawer. Mi oedd yn gyn-chwaraewr, a rhoddodd oes o wasanaeth i Bwyllgor y Clwb. Bu'n Gadeirydd am gyfnod, ac fe'i hetholwyd yn un o Aelodau am Oes y Clwb. Parhaodd i ddod i'r gemau i gyd nes i afiechyd ei gwneud yn amhosib iddo wneud hynny yn ddiweddar. Ond er gwaethaf ei holl waith i'r Pwyllgor a'r tîm, cyfraniad mwyaf Twm John o ddigon oedd bron i hanner canrif o wasanaeth i dimau plant ac ieuenctid Llanberis. Roedd yn un o sylfaenwyr Cynghrair Ieuenctid Gwyrfai yn niwedd y 60au, ac o'r cychwyn cyntaf gyda'r tîm dan 14 oed a oedd yn un o aelodau gwreiddiol y Gynghrair gweithiodd Twm John yn ddiflino i sicrhau llwyddiant i wahanol dimau a sefydlwyd yn y gwahanol oedrannau dros y blynyddoedd. Roedd yn rheolwr am flynyddoedd ac yna yn drysorydd ac yn brif gefnogwr i bawb arall a fu'n gofalu am y timau, heb anghofio'r holl flynyddoedd o fod yn dirmon. Roedd ei ddiddordeb yn hynt a helynt yr holl dimau yn fawr i'r diwedd. Yn ogystal â hyn i gyd, roedd hefyd yn Aelod am Oes o Gynghrair Undebol Y Gogledd. Y peth pwysig i Twm John, oedd ei fod wrth ei fodd yn gweld y timau yn llwyddo ac yn ennill tlysau a bod plant ac ieuenctid yn cael cyfle i chwarae pêl-droed. Bydd colled ar ei ôl yn y clwb, y pentref a'r ardal. Mae'r rhestr o chwaraewyr sydd wedi dechrau gyrfa bêl-droed fel hogia' ifanc o dan Twm John yn ddiddiwedd. Hyd heddiw mae'r tîm rheoli presennol wedi cychwyn dan Twm, fel Terry, Colin, Euron, Iolo, Iwan a Chivers cyn hynny. Mae cyfraniad Twm i'r Clwb mor anodd ei fesur oherwydd ei fod yn parhau hyd heddiw.

Cydymdeimlwn ag Eileen ei briod, ac â Reg, Ronnie a Iona, ei blant, a'r teulu cyfan yn eu profedigaeth.

*****

On the last day of the year, Thursday December 31, Thomas John Roberts (Twm John to everyone who knew him) died at the age of 89. Twm John was one of Llanberis Football Club's most loyal workers for many years. He was a former player, who gave a lifetime of service to the Club Committee. He spent time as a Chairman, and was elected as a Life Member of the Club. He continued to attend all games until illness made it impossible for him to do so recently. But despite all of his work to the Committee and the team, Twm John's greatest contribution was nearly half a century of service to the youth and children's teams of Llanberis. He was one of the founders of the Gwyrfai Junior League in the late 60s and he was with the under 14s team since the beginning. Twm John worked tirelessly to ensure the success of different teams in different age groups established over the years. He was a manager for years and then treasurer and chief supporter for everyone else who managed the teams, not forgetting all the years of being a groundsman. As well, he was a Life Member of the Welsh Alliance League. The important thing for Twm John, was the delight to see the team succeed and win trophies and that children and youth had the opportunity to play football.

His death is a big loss to the club, the village and the area.

Our thoughts are with his wife Eileen, Reg, Ronnie and Iona, his children, and the whole family in their bereavement.

Further reading