News & EventsLatest NewsCalendar
Rheolwyr newydd i'r ail dîm.

Rheolwyr newydd i'r ail dîm.

Carwyn Jones30 May 2015 - 15:48
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Rheolwyr newydd i'r ail dîm.

Llongyfarchiadau mawr i Iolo Roberts a Gwyn Pritchard Jones sydd wedi cael eu penodi fel rheolwr ac is-reolwr ail dîm CPD Llanberis ar gyfer tymor 2015-16. Nhw fydd yn cymryd rôl Jason Baylis a Geraint Jones sydd wedi cael dyrchafiad i reoli'r tîm cyntaf.

Ymunodd Iolo efo tîm rheoli'r ail dîm yn haf 2014. Mae Iolo yn gyn gôl-geidwad i Llanberis, Waunfawr, Pwllheli, Bethesda a Bethel. Hefyd, mae ganddo brofiad rheoli ym Methel rhwng Nadolig 2010-2012. Yn ystod ei dymor llawn cyntaf fel rheolwr ym Methel, gorffenodd y tîm yn drydydd a chyrraedd y rownd derfynol yng Nghwpan y Gyngrair. Mae hyfforddi yn newydd i Gwyn, ar ôl tymhorau o gwffio yn erbyn anafiadau, mae o'n mentro i'r byd rheoli. Chwaraeodd Gwyn am sawl blwyddyn i'r Darans ar ôl chwarae i'r timau ieuenctid. Bydd hefyd ar gael i chwarae pan y bydd yn gallu.

Pob lwc i Iolo a Gwyn pan ddaw'r amser.
C'mon y Darans!

Further reading