Llongyfarchiadau mawr i Nidian Caffo Huws, Geraint Jones a gweddill carfan dan 18 CPD Llanberis ar guro Cynghrair Pêl-droed Ieuafiad Colwyn ac Aberconwy. Yn y diwedd, curodd yr hogiau y gynghrair o 14 o bwyntiau ar ôl colli dim ond unwaith drwy'r tymor yn y gynghrair. Gwelwyd perfformiadau arbennig gan y Darans mewn amodau anodd i sicrhau'r buddugoliaethau mewn rhai gemau.
Hefyd, ennillodd y tîm Gwpan y Gynghrair yn ôl ar ddiwedd fis Ebrill ar bnawn Sul yng Nghonwy. Curo 1-0 oedd sgôr y gêm, Ryan Owen efo'r gôl bwysig yn yr hanner cyntaf. Mae hyn yn golygu fod Nidian yn un o niferoedd bach iawn sy wedi curo'r Gwpan fel chwaraewr ag rheolwr.
Hyn yw'r ail flwyddyn i Nidian guro'r Gynghrair a Cwpan y Gynghrair ar ôl curo'r ddwy tymor dwythaf pan oedd y clwb yn cystadlu yng Nghynghrair Pêl-droed Ieuenctid ac Iau Ynys Mon. Dipyn o gamp!
Llongyfarchiadau unwaith eto i bawb am eu gwaith caled.