News & EventsLatest NewsCalendar
Y rheolwr Geraint Jones yn edrych ymlaen at y gem gwpan ddydd Sadwrn yn Rhos Aelwyd

Y rheolwr Geraint Jones yn edrych ymlaen at y gem gwpan ddydd Sadwrn yn Rhos Aelwyd

Nidian Huws19 Oct 2017 - 21:34
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Manager Geraint Jones looks ahead to Saturday's cup match at Rhos Aelwyd

Photo courtesy of Gari Williams

“Mae hon yn gem fawr ddydd Sadwrn yn Nhlws CBDC, mi fyddwn ni fel clybiau eraill ein cynghrair efo gobeithion o rediad yn hon, ac yn ddiddorol yn y rownd yma, mi yda ni, Penrhyn, Pwllheli, Vale a Llanrug oddi cartref yn erbyn timau o’r Welsh National League ardal Wrecsam.

Tyda ni ddim yn gwybod llawer am ein gwrthwynebwyr, ond reit siwr y byddan nhw yn teimlo yn hyderus ar ei tomen eu hunan.

Mae Steffan Jones, Rob Daniels ac Adam Hughes y capten allan hefo anafiadau, ond Jason Jones, Tomos Owen a Guto Llywelyn yn dod mewn i'r garfan.

Bydd dydd Sadwrn fwy am y canlyniad na'r perfformiad, ein gobaith yw bod yn yr het am y rownd nesaf.”

Pob lwc i Geraint a'r hogia - a gyda chefnogaeth llond bws, gobeithio, o gefnogwyr, ymlaen i'r rownd nesa' yw'r nod! Dewch hogia!!

"This Saturday's match in the FAW Trophy is a big game for us, we and other clubs in our division have high hopes of a good run in this competition, and interestingly in this round we, Penrhyn, Pwllheli, Vale and Llanrug are all away against Welsh National League Wrexham Area sides.

We know little about our opponents, but we are sure they will feel confident on their own patch.

Steffan Jones, Rob Daniels and Adam Hughes, our captain, are all out with injury, but we have Jason Jones, Tomos Owen and Guto Llywelyn coming into the squad.

Saturday will be more about the result than the performance, and we hope to be in the hat for the next round."

Best of luck to Geraint and the lads - and with the support of a coach load of supporters, hopefully, let's get to the next round - come on the Darans!!

Further reading