Rydym fel clwb yn falch o gyhoeddi y bydd Tudur Owen yn dod adra am noson i roi rhagolwg o'i daith newydd 'Parablu' (sydd wedi gwerthu allan mewn sawl lleoliad). Bydd Hogia Bodwrog hefyd yn perfformio ar y noson sy'n golygu y bydd gwledd o adloniant yn eich disgwyl.
Bydd y noson yn cael ei chynnal yn Neuadd Glannau Ffraw, Aberffraw ar nos Sadwrn, 29 Rhagfyr. Bydd y drysau a'r bar yn agor am 6.30pm a chost ticed fydd £10. Byddwn yn rhyddhau mwy o fanylion o ran sut y gallwch brynu eich tocyn nos fory. Cofiwch ddilyn y clwb ar Facebook a Twitter er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Noder mai noson Gymraeg fydd hon ac oedolion yn unig fydd yn cael mynediad gyda rhybudd o iaith gref.
Rydym yn hynod falch o groesawu Tudur yn ôl i'w filltir sgwar am noson arbenning. Bydd elw'r noson yn mynd at y clwb.