News & EventsLatest NewsCalendar
Diweddariad Pwysig Noson Tudur Owen nos Sadwrn yma

Diweddariad Pwysig Noson Tudur Owen nos Sadwrn yma

Gerallt Roberts27 Dec 2018 - 08:21
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Cofiwch eich ticedi

Hoffai'r clwb atgoffa pawb sydd gyda tocyn ar gyfer y noson gyda Tudur Owen a Hogia Bodwrog nos Sadwrn yma am y canlynol:

1. Mae'r drysau a bar yn agor am 18.30 adloniant yn cychwyn am 19.00.
2. Ni fydd modd cael mynediad i'r noson heb docyn felly cofiwch eich tocynnau - dim tocyn dim mynediad.
3.Rydym yn gobeithio bydd ambell le parcio ger y neuadd ar Eglwys sydd ger llaw, hoffwn ofyn wrth drigolion lleol gerdded i'r neuadd os yn bosib. Os ydych yn dod mewn grwp mi fysa rhanu lift yn syniad da - cofiwch barcio yn gall rhag creu problemau ar y noson.
4. Mi fydd yna ardal ysmygu tu allan i'r neuadd; plis rhowch eich stympiau sigarets allan yn y lleoliad sydd wedi ei greu ar eich cyfer.
5. Rydym yn rhag weld bydd y noson yn gorffen erbyn tua 22.00.

Rydym fel clwb yn edrych ymlaen yn fawr iawn am y noson ac edrychwn ymlaen i groesawu pawb i'r neuadd am noson wych o adloniant nos Sadwrn yma.

Os ydych yn chwilio am rhywle er mwyn cael bwyd a diod cyn neu ar ol y noson mae'r Goron ar agor a wastad yn cynnig croeso cynnes iawn. Bydd raffl hefyd yn cael ei dynu ar y noson a bydd modd prynu raffl ar y noson.

Dyna ddigon o barablu gennym ni am rwan wela ni chi nos Sadwrn.

Further reading