News & EventsLatest NewsCalendar
Tocynnau Noson yng nghwmni Tudur Owen

Tocynnau Noson yng nghwmni Tudur Owen

Gerallt Roberts12 Nov 2018 - 21:07
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Ar werth dydd Sadwrn yma

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd tocynnau noson Tudur Owen a Hogia Bodwrog ar werth dydd Sadwrn yma. Bydd aelodau'r clwb pêl-droed yn cychwyn gwerthu'r tocynnau yn Neuadd Glannau Ffraw, Aberffraw rhwng 9am ac 11am ddydd Sadwrn yma. Os bydd tocynnau ar ôl bydd y rhain ar werth yn Nhafarn Y Goron, Aberffraw yn ystod y penwythnos.

Noder mai cyntaf i'r felin fydd hi ac ni fyddwn yn cadw tocynnau i unrhyw un er mwyn bod yn deg gyda phawb.

Ers cyhoeddi manylion y noson neithiwr mae'r ymateb wedi bod yn wych felly cofiwch ddod draw bore dydd Sadwrn i brynu eich tocyn.

Diolch am eich cefnogaeth.

Further reading