History 1 of 2

1. History 1


Hanes y Clwb
Sefydlwyd Clwb Pêl Droed Llanllyfni yn ystod Haf 2005. Nid oes cofnod swyddogol yn datgan fod clwb wedi bodoli yn y pentref cyn hyn, felly dyma ddarganfod clwb o'r newydd. Er hyn, mae tystiolaeth gref fod clybiau eraill wedi chwarae eu gemau cartref ar gae Brenin Siôr V (Cae Chwarae) gan gynnwys timau iau Llanllyfni. Yn wir, mae rhan helaeth o garfan tymor cyntaf y clwb (2005/06) yn chwaraewyr a enillodd Gynghrair Gwyrfai Dan 12 gyda thîm y pentref yn 1992.
Pam ffurfiwyd y clwb?
Gan fod rhan helaeth o'r hogia' y pentref wedi chwarae eu pêl droed wythnosol i glybiau amrywiol yn ystod y tymhorau blaenorol, cododd trafodaethau ynglŷn â chychwyn Clwb Pêl Droed yn Llanllyfni. Y farn gyffredinol oedd y byddai'n well gan y chwaraewyr hyn chwarae dros eu penterf eu hunain nac i glybiau mewn ardaloedd eraill. 'Roedd hi'n weddol amlwg, wedi hyn, y gallasai'r garfan gynnal ei hun, felly aethpwyd ati i ffurfio'r clwb yn swyddogol.
Cymerodd Llŷr Huws a Kevin Sheret yr awenau ym mis Mehefin 2005, ac yn dilyn wythnosau o waith caled, cofrestrwyd Clwb Pêl Droed Llanllyfni ar yr unfed awr ar ddeg. Wedi penodi swyddogion a thîm rheoli, cadarnhawyd mai Llanllyfni fyddai'r olaf o dair clwb newydd i ymuno â Chyngrhrair Caernarfon & District Safeflue y tymor hwnnw.
Arweiniodd y rheolwr, Kevin Sheret, y tîm i fuddigoliaeth yn eu gêm gyfeillgar gyntaf yn erbyn Rhiwlas ym mis Gorffennaf. Ennill o ddau gôl i ddim fu'r hanes y diwrnod hwnnw gyda Rhys Roberts yn sgorio'r gôl gyntaf i'r clwb.
Gwnaed argraff, hefyd, yng ngêm gystadleuol gyntaf Llanllyfni gyda buddugoliaeth o dair gôl i un yn erbyn Caernarfon Borough ar Gae Brenin Siôr V - Iwan Wyn Williams yn rhwydo gyntaf i'r tîm cartref ar y 13eg o Awst, 2005.
Mae'r gweddill, fel y dywed nhw, yn hen hanes.