News & EventsLatest NewsCalendar
'Straeon Rygbi Gogledd-Orllewin Cymru'

'Straeon Rygbi Gogledd-Orllewin Cymru'

Gary Williams7 Dec 2016 - 07:49
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

'Straeon Rygbi Gogledd-Orllewin Cymru' - Darlith Goffa Merfyn Williams 2016, gan Arthur Thomas.

This commemorative talk/lecture ''North West Wales Ruby Tales" is reproduced by kind permission of the author Arthur Thomas and Snowdonia National Park - with special thanks to Bro Ffestiniog's President and North Wales rugby stalwart Tony Coleman who brought it to my attention and made it possible to publish which I am sure will be of interest to our rugby fraternity. We will try and serialise 'The Tales' over coming weeks and I am sure they will bring back enjoyable memories.

Hywel

Mynd am dro un pnawn Sadwrn i glwb Bro ( Ffestiniog) i weld y gem yn erbyn Y Wyddgrug. Wedi y croeso cynnes fel arfer Tony yn son am y ddarlith gan Arthur Thomas am glybiau rygbi lleol a meddwl fase'r 'pundit' a diddordeb. 'Wrth gwrs' medda fi ac i ffwrdd a fo ar unwaith, adra i nol y llyfryn y ddarlith. Mwynheis ei darllen yn fawr iawn a penderfynu i roi ar Ovalzone a we NWRUC. Gobeithio y gwnewch chithau fwynhau a cofiwch os oes mwy o storiau cyffelyb fase Arthur wrth ei fodd os fuasech yn cysyllty a fo. arthurm.machno@btinternet.com

Diolch i Arthur a Parc Cenedlaethol Eryri am eu caniatad parod i ail adrodd y ddarlith, hefyd i Tony (a Pam) am wneud hyn yn bosib..

Hywel

Dyma dipyn o gefndir/rhagair gan Arthur ---

"Yr oedd Merfyn Williams yn gweithio ym Mhlas Tan y Bwlch, yn trefnu cyrsiau ac yn y blaen. Yr oedd hefyd yn flaenasgellwr digyfaddawd ac yn flaenllaw ym mysg y rhai a sefydlodd Gwb Bro Ffestiniog.Deuthum i'w adnabod yn gyntaf yn y coleg yn Abertawe ac yn y fan honno y cododd y diddordeb mewn rygbi. Pan oeddwn yn athro ym Mhorthmadog ac yn byw ym Mhenmachno gofynnodd Merfyn i mi a fyddwn yn fodlon dod i chwarae i dim Bro Ffestiniog. Wedi cyfnod gyda'r clwb hwnnw, aeth tri ohonom - Myrddin ap Dafydd ac Eryl Owain oedd y ddau arall- ati i ysbrydoli sefydlu Clwb Nant Conwy.

Gan fod cynifer o glybiau'r Gogledd Orllewin wedi eu sefydlu yn y saith- a'r wythdegau, mae'r straeon am droeon trwstan yn dal yn fyw o'r cychwyn cyntaf felly,ar anogaeth Myrddin a Gwasg Carreg Gwalch dyma fynd ati i gasglu'r straeon hyn o'r clybiau gyda'r bwriad o'u cyhoeddi mewn cyfrol. Os oes gennych stori ddifyr, yna gellir cysylltu a mi ar arthurm.machno @btinternet.com "


Ar y cychwyn fel hyn, hoffwn ddiolch am y fraint o gael gwahoddiad I Draddodi’r Ddarlith Goffa eleni. Fe’i hystyriaf yn fraint arbennig gan fy mod yn adnabod Merfyn yn y coleg yn Abertawe a bûm yn ymwneud llawer ag ef yn ystod ei gyfnod ym Mhlas Tan y Bwlch. Sut allaf anghofio’r cyrsiau ar y Celtiaid a drefnodd tra’n y Plas, cyrsiau a aeth yn ddim amgenach ambell dro (wel, i nifer ohonom) na chyfle i ymarfer yr hen draddodiad Celtaidd o ‘godi’r bys bach’? Rhaid sôn am un o’r teithiau y bûm arni oedd yn rhan o gyrsiau Celtaidd y cyfnod hwnnw - sef taith i ddinas Prag a’r Weriniaeth Tsiec i weld rhai o olion Celtaidd y wlad honno. Wel, dyna’r esgus, beth bynnag, ac yn fuan iawn y daeth Tomas, ein tywysydd Tsiec i ddeall mai criw rhyfedd iawn o archeolegwyr oedd y rhain, yn dangos ychydig iawn o ddiddordeb yn olion Celtaidd cyfoethog ei wlad ond a fynnai archwilio pensaernïaeth tai tafarnau a chlybiau Prag - a hynny hyd oriau mân y bore!

Merfyn, hefyd, a’m hudodd i chwarae rygbi gyda Chlwb Bro Ffestiniog ac felly, yn anuniongyrchol, yr oedd yn gyfrifol am sefydlu Clwb Rygbi Nant Conwy, clwb mwyaf llwyddiannus Gogledd Cymru gan fod tri ohonom a fu ynghlwm â sefydlu hwnnw yn chwarae i Fro Ffestiniog, sef Eryl Owain, Myrddin ap Dafydd a minnau. Wrth gwrs, roedd Eryl yn adnabod Merfyn o’i gyfnod yn yr ysgol uwchradd yn Nolgellau ac yntau’n un arall o’r cenhadon rygbi a ddaeth o’r ysgol honno.

Felly, rygbi fydd fy nhestun am yr orig nesaf a byddaf yn adrodd straeon am rai o’r clybiau a sefydlwyd yn ystod y saithdegau ac wythdegau’r ganrif ddiwethaf yng ngogledd-orllewin Cymru a, maes o law, fe ddaw enw Merfyn yn ôl i’r stori.

Dros y blynyddoedd, clywais lawer o straeon difyr am glybiau pêl-droed yr ardal hon. Fel bachgen o Benmachno, oedd yn gadarnle’r bêl gron, byddai’r gamp honno’n cymryd y flaenoriaeth ar bob agwedd o fywyd cymdeithasol y fro pan oeddwn yn blentyn. Gan i’r clwb hwnnw fod mewn bodolaeth ers cryn amser, aeth yr hanesion gwreiddiol o gyfnod ei sefydlu ar goll wrth i’r hen do fynd ‘dros y don’ fesul un. Er mai ar ôl yr Ail Ryfel Byd y ffurfiwyd Machno Unedig pan unwyd dau glwb y ‘Cwm’ a’r ‘Llan’, eto aiff yr hanesion am y bêl-droed yn Nyffryn Machno yn ôl cryn bellter. Mae gennyf yn fy meddiant, gopi o draethawd buddugol yn un o eisteddfodau Penmachno cyn y Rhyfel Mawr, traethawd gan L. K. Evans yn son am effaith diwygiad 04 - 05 ar y fro ac ynddo, adroddir hanes am gêm bêl-droed yn y pentref pan ‘darodd y diwygiad’ y rhai oedd ar y cae ac iddynt fynd ar eu gliniau i weddïo gan roi o’r neilltu’r hyn oedd yn digwydd ar y cae. Erbyn heddiw, mynd ar eu gliniau i weddïo ar y dyfarnwr i beidio rhoi cerdyn coch iddynt a fyddai’r hanes!

Mae’r un peth yn wir am glybiau eraill yr ardal ac er i mi glywed hanesion difyr iawn gan Arwel ‘Hogia’r Wyddfa’ am glwb Llanberis, fe fu i lawer iawn gael eu colli yn nhreigl amser. Mi fyddwn yn gallu enwi nifer o glybiau pêldroed yn yr ardal hon sydd yn frith o hanesion difyr amdanynt ond nid o’r cychwyn cyntaf. A dyna’r gwahaniaeth mawr rhyngddynt a’r clybiau rygbi.

Mae’r rhan fwyaf a fu ynghlwm wrth sefydlu’r clybiau rygbi yn yr ardal hon yn dal gyda ni ac felly’n siŵr o gofio’r hanesion o’r cychwyn hwnnw. Gan fod fy mhrofiad ar y maes rygbi yn ymwneud â dau glwb yn bennaf - Bro Ffestiniog a Nant Conwy, mae’r rhan fwyaf o’r straeon yr wyf am eu hadrodd i chi heno yn codi o’r clybiau hyn, neu o glybiau eraill yn ystod y cyfnod y bûm yn chwarae’r gêm. Ond cyn bwrw i mewn i’r straeon, mae angen rhoi ychydig o hanes y gêm a sut bu i weithred syml gan ŵr o’r enw William Webb Ellis yn un o ysgolion bonedd Lloegr, sef Rugby School, ddod yn gêm boblogaidd yn hen ardaloedd y chwareli a rhannau eraill o ogledd orllewin Cymru.

Ceir hanes rygbi’n cael ei chwarae mewn ysgolion bonedd megis Rhuthun, neu ‘Ruthin School’ i roi ei henw cywir iddi yn y 1870au, ond nid oedd hi’n gêm i’r brodorion lleol. Erbyn 1881, yr oedd clwb rygbi wedi ei sefydlu ym Mangor, gan fod y clwb ymysg yr unarddeg clwb gwreiddiol a sefydlodd Undeb Rygbi Cymru yn ystod y flwyddyn honno. Yn y flwyddyn 1887, chwaraewyd gêm o dan reolau’r Undeb newydd rhwng Coleg y Brifysgol, Bangor a’r Coleg Normal. ‘Dwn i ddim beth oedd y sgôr na phwy oedd yn chwarae - dim ond crybwyll y gêm fel rhan o gefndir i’r hanes a wnaf.

Cynyddodd y diddordeb yn y gêm yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf a hynny, mae’n debyg, am fod cymaint o ddynion ifanc o’r ardal wedi dod I gysylltiad â hi wrth wasanaethu yn y fyddin. Sefydlwyd clybiau rygbi mewn trefi megis Bae Colwyn, Caergybi, Machynlleth ac wrth gwrs, yn Nolgellau. Yno y sefydlwyd Clwb Hen Ramadegwyr Dolgellau gan gyn-ddisgyblion yr ysgol ramadeg yn y dref. Bu’r ysgol honno yn hyrwyddo rygbi dros y degawdau ac yn sefyll fel rhyw ynys unig o rygbi yng nghanol môr o bêldroed. Y bêl gron oedd gêm y werin yn y rhan hon o Gymru ac fe ddaliodd yn boblogaidd hyd heddiw. Dyna oedd y gêm yn Ysgol Ramadeg Llanrwst, neu’r ‘Llanrwst Grammar School’ fel yr oedd yn y dyddiau pan fûm i rhwng ei muriau. Fel y dengys yr enw, awyrgylch Seisnig iawn oedd i’r ysgol honno, ac fe geisiai efelychu rai o arferion yr ysgolion bonedd. Ond nid oedd rygbi yn un o’r arferion hynny, chwaith. Erbyn heddiw, Ysgol Dyffryn Conwy yw ei henw ac mae rygbi yn cael ei chwarae yno yn ogystal â’r bêl droed. Dyna hanes y mwyafrif o ysgolion yr ardal, ond rygbi oedd y gêm yn Nolgellau ac yn yr ysgol honno, wrth gwrs, y dechreuodd Merfyn chwarae’r gêm cyn trosglwyddo’r brwdfrydedd amdani i ardal Ffestiniog pan ddaeth
yn athro daearyddiaeth i Ysgol y Moelwyn.

Roedd y cyfnod o ganol y chwedegau hyd ganol y saithdegau yn gyfnod o chwyldro ac o newid yn agwedd y Cymry tuag at eu hiaith a’u cenedl. Heblaw am y newidiadau gwleidyddol, arweiniodd y deffro hwn at sefydlu mudiadau fel Merched y Wawr a sefydlu nifer fawr o bapurau bro ar hyd a lled y Gymru Gymraeg fel rhan o’r ymgyrch i adfywio’r iaith drwy gael y trigolion i ddarlen newyddion ac erthyglau lleol yn Gymraeg, yn ogystal â chyfrannu i’r papurau. Ar yr un adeg, cydredai yr hyn a elwir yn ‘oes aur’ rygbi Cymru, gyda thîm o fawrion y gamp yn ennill pencampwriaeth ar ôl pencampwriaeth a sawl coron driphlyg a champ lawn. Dan ddylanwad y deffro cenedlaethol a’r llwyddiant ar y cae rygbi rhyngwladol, symbylwyd nifer o bobl i sefydlu clybiau rygbi yma ac acw a chlybiau Cymraeg eu hiaith a’u hagwedd oeddynt i bob pwrpas. Mae hynny yn profi fod dylanwad y deffro cenedlaethol a’r ‘oes aur’ yng Nghymru yn gryf iawn ar y clybiau hyn. O Fethesda i Fro Ffestiniog ac eraill yn y saithdegau, wedyn i Nant Conwy a’r Bala ar ddechrau’r wythdegau, gosodwyd seiliau cadarn sydd wedi hen ddwyn ffrwyth erbyn hyn.

Felly, dyma fi’n troi yn ôl at Merfyn a chlwb Bro Ffestiniog. Blaenasgellwr caled a digyfaddawd, bob amser yn brwydro hyd yr eithaf. Fe’i gwelaf yn awr, yn waed yr ael ar ôl cael archoll ar ei ben. Ond wedi ychydig o ymgeledd gan Arthur Boyns, Cadeirydd y Clwb a’r meddyg lleol yn y Blaenau ar y pryd, aeth yn ôl i chwarae ei ran yn y gêm. Cofiwch, roedd
greddf y meddyg yn diflannu ambell waith, fel y tro y bu i flaen asgellwr arall y tîm gael ei anafu ac wrth iddo ruddfan mewn poen ar y llawr, yr unig ymateb a gafodd gan y meddyg, yn ei acen ddeheuol oedd: “Dere mlaen ’achan, ’y ni’n colli!”

Os cofiaf yn iawn, yn ystod gêm gwpan rhwng Bro Ffestiniog a Bethesda a chwaraewyd ar gae Pont y Pant y digwyddodd hynny, gêm galed a enillwyd gan y tîm cartref. Ond doedd colli gydag urddas ddim yn rhywbeth a gredai Bethesda ynddo. Ar y ffordd adref, galwodd y tîm mewn tafarn yng Nghapel Curig ac yn fuan, aeth hi’n ymladdfa rhyngddynt a chriw o ddringwyr o Loegr. Wrth gael eu hel allan, mae’n rhaid iddynt roi ar ddeall mai tîm rygbi Bro Ffestiniog oeddynt am mai dyna oedd sail cwyn gan berchennog y gwesty. Cefnwr Bethesda’r prynhawn hwnnw oedd Kevin Whitehead a blynyddoedd yn ddiweddarach, wrth wylio’r newyddion ar S4C, death wyneb cyfarwydd ar y sgrin yn ystod rhyw stori, ac ar draws y gwaelod daeth enw’r ditectif, sef Kevin Whitehead ! Mae’n siwr iddo gael sylfaen go lew i’w alwedigaeth, efallai, hyd yn oed fod yno elfen o botsiar yn troi’n gipar! Beth bynnag, yn ystod y gêm honno ym Mhont y Pant enillodd Bro’r bêl o’r sgrym a dyma Huw Joshua, maswr Bro yn codi cic uchel. Aeth Kevin Whitehead oddi tani i geisio ei dal ond aeth y bêl rhwng ei ddwylo i’r llawr. Wrth godi o’r sgrym, dyma Spud, prop Bethesda yn gweiddi dros y lle am I Kevin Whitehead fynd i wneud rhywbeth i’w fam - a choeliwch chi fi, nid golchi llestri oedd hynny!

Further reading