News & EventsLatest NewsCalendar
Tîm yr Egin Gymry 26 v Tîm Datblygol Dan 18 Lloegr 20

Tîm yr Egin Gymry 26 v Tîm Datblygol Dan 18 Lloegr 20

Gary Williams19 Apr 2018 - 21:31
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Yr Egin Gymry yn Curo Tîm Datblygol Lloegr.

Braf a calonogol iawn oedd cael gweld sêr posib y dyfodol yn cael cyfle i ddangos eu doniau ar y llwyfan eithaf ac yn well fyth eu gweld yn ennill o 26 -20.

Cafodd y Cymry ddechreuad llawn addewid yn Stadiwm y Principality gan osod pwysau sylweddol ar amddiffyn y crysau gwyn ond bu bron i'r gwaith da fynd yn ofer pan lwyddodd asgellwraig Lloegr, Jodie Ounsley i fylchu a gwibio 80 metr lawr yr asgell. Fodd bynnag dangosodd y Cymry elfen gystadleuol tu hwnt wrth i Katie Thicker ddod nol i'w thaclo fodfeddi yn brin o'r linell, ond gwaetha'r modd cael ei hanafu yn y broses.

O gig gosb rhodd Ellie Green, Lloegr ar y blaen o dri pwynt ond sbardunodd hyn y Cymry i dalu'r pwyth yn ôl gyda'r Capten, Liliana Podpadec yn gwbl allweddol a hynod ddylanwadol. Hi, ymhen 12 munud arweiniodd at agor cyfrif y Cymry gyda'i rhediad cryf a dadllwytho celfydd yn rhoi'r ganolwraig Darcy Thomas mewn gwagle i sgorio. Thomas hefyd lwyddodd gyda'r trosiad.

Cafwyd bylchiad hyfryd gan y prop Ruth Lewis, cynnyrch academi rheng flaen Blaendulais, ac yna dau o wir safon gan y fewnwraig Megan Davies, gyda'r ail yn arwain at gic gosb a gymerwyd yn sydyn i Podpadec unwaith eto dwyllo'r gelyn ar tro yma sgorio cais unigol gwych. Troswyd unwaith yn rhagor gan Darcy Thomas.

O barhau i weithio fel uned daeth y Cymry yn agos i'r linell gais unwaith yn rhagor gyda'r flaenasgellwraig Alex Callender yn plymio dros y linell yn agos i'r liman gornel. Dechreuodd y crysau gwyn yn raddol hawlio a chadw meddiant yn well ac yn sydyn 'roeddynt ar y sgorfwrdd gyda digon o wagle wedi cael ei greu ar yr asgell i adael i Merryn Doidge groesi yn y gornel.

Bu'r ail hanner yr un mor gystadleuol gyda'r Cymry yn cael eu profi yn gynyddol o ran eu hamddiffyn. Yn ffodus 'roeddynt yn wrol o ran y cyfrifoldeb hwnnw, fel y profodd Imogen Shide, er i beth blinder yn amlwg ddod i'r wyneb nes ymlaen. Gellid dweud yr un peth am Lloegr gyda taclo yr eilydd o fachwr Ellie Pigford yn ysbrydoledig.

Cafodd Cymru fesur o lwyddiant drwy gymryd ciciau cosb yn sydyn, a hyn yn raddol a ddaeth a nhw i sefydlu llwyfan a ddeilliodd yn eu cais olaf. O un ymosodiad daeth y bêl i'r tir agored lle 'roedd yr unig gynrychiolydd o'r gogledd, Molly Kelly yn barod i hyrddio tua'r linell. Gyda sain ei chefnogwyr selog yn gyfeiliant, fe lwyddodd i ddod yn hynod agos a gosod yn gyflym fel i Manon Johnes fedru casglu a thirio dan y pyst. Niamh Terry lwyddodd efo'r trosiad y tro hwn.

O feddwl bod y gêm yn saff o bosib, cafodd y Cymry agoriad llygad mewn dim pan ganfu Emma Sing fwlch ar yr ochr agored a gwibio i mewn o 30 metr a thirio dan y pyst i roi trosiad arall rhwydd, y tro yma i Lauren Fisher.

Bu'r chwarter awr olaf yn frwydr digon corfforol gyda'r Cymry yn gwneud digon i gadw Lloegr yn ddigon pell rhag y linell gais tan y funud olaf un, pan yn dilyn cyfres o ymosodiadau fe greuwyd bwlch i Jodie Ounsley sgorio yn y gornel. Methodd y trosiad ac efallai fod y Cymry yn fwy balch o glywed y chwiban olaf na'u gwrthwynebwyr y tro hwn.

Further reading