News & EventsLatest NewsCalendar
Vacancy: Swyddog Datblygu Rygbi/Rugby Development Officer

Vacancy: Swyddog Datblygu Rygbi/Rugby Development Officer

Gary Williams18 Jul 2018 - 15:05
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

(An advertisement for the post of Rugby Officer at Ysgol Dyffryn Conwy/ Ysgol y Creuddyn. All candidates to be fluent in both Welsh and English).


Yn eisiau ar gyfer 1af o Fedi, 2018 neu mor fuan a phosib wedyn

Swyddog Datblygu Rygbi
Ysgol Dyffryn Conwy(0.8)
Ysgol y Creuddyn(0.2)

Cyflog - GO4 £18,394 - £19,430

Oriau Gwaith - 35 awr yr wythnos fydd yr oriau safonol ond oherwydd natur y gwaith mae'n bosib bydd rhaid gweithio oriau ychwanegol ar rai achlysuron. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda'r nos ac ar y penwythnos.
Statws Cytundeb - Tymor penodol o 2 flynedd

Mae’r ysgol yn chwilio am berson cymwys sydd â’r weledigaeth, brwdfrydedd a’r bersonoliaeth i hyrwyddo chwarae rygbi undeb a datblygu'r gêm o fewn yr ysgol a chlwb lleol. Annog cymaint o ddisgyblion â phosibl i gymryd rhan mewn gweithgareddau rygbi allgyrsiol. Traddodi cwricwlwm rygbi URC i blant o bob gallu.

Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol gydag ethos naturiol ddwyieithog ar safle deniadol mewn adeiladau newydd gydag adnoddau sy’n cynnig amgylchedd dysgu gyda’r gorau posibl. Mae Ysgol Y Creuddyn yn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Bydd gan yr ymgeisydd angen:
Cymhwyster ffurfiol neu brofiad o weithio mewn amgylchedd rygbi neu addysg
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy'r Gymraeg yn hanfodol.
Cymhwyster hyfforddi rygbi – o leiaf Lefel 2 URC (neu'r gallu i weithio tuag at Lefel 2)

Pecyn cais a’r swydd ddisgrifiad ar lein. Gwybodaeth bellach am yr ysgolion ar safle we www.ysgoldyffrynconwy.org a www.moodle.creuddyn.conwy.sch.uk

Oherwydd natur y swydd uchod byddwn yn gofyn am ddatguddiad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Anfonwch eich ceisiadau at sylw - Mrs Delyth Algieri, Ysgol Dyffryn Conwy, Ffordd Nebo, Llanrwst, Conwy, LL26 0SD. da@dyffrynconwy.conwy.sch.uk
DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU: 9 o’r gloch Dydd Gwener 03/08/2018
Os bydd ymgeiswyr addas, bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal 15fed, 16eg neu 17eg o Awst, 2018.

(This is an advertisement for the post of Rugby Officer at Ysgol Dyffryn Conwy/ Ysgol y Creuddyn. All candidates are required to be fluent in both Welsh and English)

Further reading