News & EventsLatest NewsCalendar
WRU unveils Welsh language policy and bilingual web-site option (Da iawn--Or Diwedd !!)

WRU unveils Welsh language policy and bilingual web-site option (Da iawn--Or Diwedd !!)

Gary Williams23 Sep 2014 - 13:15
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

The WRU has adopted an official Welsh Language Policy which will help enshrine the use of the language in rugby both on and off the field.

The policy will ensure the language is considered across the business and rugby operations and wherever the game is played by WRU teams.

To coincide with the adoption of the policy the WRU has unveiled a new bi-lingual website which will regularly be uploaded with rugby news from Wales.

The website can be opened through a Welsh option button on the main home page of the existing website (CYM).

The new policy is also published on the WRU website and printed copies of the document are being sent to all staff and stakeholders. The policy has been approved by the WRU Board and was devised after consultation with the Welsh Language Commissioner for guidance on content.

Within the policy, protocols are outlined for the use of Welsh throughout the remit of the governing body, which includes the Millennium Stadium. The policy covers areas such as website use, publications, social media, telephone protocols and public speaking.

WRU staff will monitor the use and development of the policy which will evolve to reflect the growth of rugby in future. The WRU will also continue to liaise with the Welsh Language Commissioner's office to seek advice on implementing the policy.

WRU Group Chief Executive, Roger Lewis, said: "I am delighted the Welsh Rugby Union has published an official policy which reflects our duty of care for the use of the Welsh language across the national sport of Wales.

"We represent the national sport of Wales and it is right and proper that we champion and facilitate the use of Welsh both within the WRU and through the people we engage with. We already carry out a great deal of work through the medium of Welsh and this policy document is an accurate reflection of our commitment to the language.”

The Chairman of the WRU, David Pickering, added: "Welsh is a living language and the WRU is proud to acknowledge its importance through the adoption of this new policy.

"I hope this move will show the way for other organisations who want to follow our example and proclaim their support for Welsh in this way.

"We know how hard the Welsh Government works to promote the use of the language and we are delighted to align our own policies to that strategy.

"Of course many people will continue to engage with the WRU in the English language but we must reflect the needs of Welsh speakers who want to use Welsh throughout their daily lives.

"We are also extremely grateful to S4C for the help they are giving us in achieving our ambitions with the website content.”

The WRU and S4C have forged a partnership within which the Union allows the broadcaster access to Welsh language video content which can then be utilised by both organisations. This enables the WRU to guarantee a flow of Welsh language content across its web output.

The WRU already boasts a wide use of the Welsh language through areas such as its publications, coaching, match official and skills training courses, publications, media engagement and signage.

The WRU offers facilities for media interviews to be carried out through the medium of Welsh around the world where Wales teams play.

UNDEB RYGBI CYMRU YN CYHOEDDI EI BOLISI IAITH GYMRAEG A'I WEFAN DDWYIEITHOG

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi mabwysiadu Polisi Iaith Gymraeg swyddogol a fydd yn helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio ym maes rygbi – ar y cae ac oddi arno.

Bydd y polisi'n sicrhau bod yr iaith yn cael ei hystyried ar draws pob agwedd ar fusnes a rygbi a lle bynnag y caiff y gamp ei chwarae gan dimau URC.

I gyd-daro â'r ffaith ei fod yn mabwysiadu'r polisi, mae URC wedi cyhoeddi gwefan ddwyieithog newydd a fydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd â newyddion am rygbi yng Nghymru. Gellir gweld ochr Gymraeg y wefan drwy glicio ar y botwm opsiwn Cymraeg (CYM) ar hafan y wefan bresennol.

Mae'r polisi newydd wedi'i gyhoeddi hefyd ar wefan URC, ac mae copïau caled o'r ddogfen yn cael eu hanfon at bob aelod o staff a phob rhanddeiliad. Mae Bwrdd URC wedi cymeradwyo'r polisi, a chafodd ei lunio ar ôl ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg a roddodd arweiniad ynghylch ei gynnwys.

Mae'r polisi'n cynnwys protocolau ar gyfer defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar gylch gwaith y corff llywodraethu, sy'n cynnwys Stadiwm y Mileniwm. Mae'r polisi'n ymdrin â meysydd megis y wefan, cyhoeddiadau, cyfryngau cymdeithasol, protocolau ar gyfer ateb y ffôn a siarad yn gyhoeddus.

Bydd staff URC yn monitro'r modd y bydd y polisi'n datblygu a'r modd y caiff ei ddefnyddio, a bydd y polisi'n esblygu er mwyn adlewyrchu twf rygbi yn y dyfodol. Bydd URC hefyd yn parhau i drafod â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg er mwyn cael cyngor ynghylch gweithredu'r polisi.

Meddai Prif Weithredwr Grŵp URC, Roger Lewis: "Rydw i wrth fy modd bod Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi polisi swyddogol sy'n adlewyrchu ein dyletswydd gofal tuag at y defnydd a wneir o'r Gymraeg ar draws camp genedlaethol Cymru.

"Rydym yn cynrychioli camp genedlaethol Cymru, ac mae'n iawn ac yn deg ein bod yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd a wneir o'r Gymraeg yn URC a thrwy'r bobl rydym yn ymwneud â nhw. Rydym eisoes yn gwneud llawer iawn o waith drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r ddogfen bolisi hon yn adlewyrchiad cywir o'n hymrwymiad i'r iaith.”

Meddai Cadeirydd URC, David Pickering: "Mae'r Gymraeg yn iaith fyw ac mae URC yn falch o gydnabod pwysigrwydd yr iaith drwy fabwysiadu'r polisi newydd hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y cam hwn yn dangos y ffordd i sefydliadau eraill sydd am ddilyn ein hesiampl a chyhoeddi eu cefnogaeth i'r Gymraeg yn y modd hwn.

"Rydym yn gwybod mor galed y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hybu'r defnydd a wneir o'r Gymraeg, ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu sicrhau bod ein polisïau ni'n cyd-fynd â'r strategaeth honno. Wrth gwrs, bydd llawer o bobl yn dal i ymwneud a'r Undeb drwy gyfrwng y Saesneg, ond mae'n rhaid i ni adlewyrchu anghenion siaradwyr Cymraeg sydd am ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywyd pob dydd.

"Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar i S4C am yr help yr ydym yn ei gael gan y sianel wrth i ni geisio gwireddu ein dyheadau o safbwynt cynnwys y wefan.”

Mae URC ac S4C wedi ffurfio partneriaeth sy'n golygu bod yr Undeb yn caniatáu i'r darlledwr gael deunydd fideo Cymraeg sydd yna'n gallu cael ei ddefnyddio gan y ddau sefydliad.

Mae hynny'n galluogi URC i sicrhau llif o ddeunydd Cymraeg ar draws ei gynnyrch ar y we. Mae URC eisoes yn gwneud defnydd helaeth o'r Gymraeg trwy, er enghraifft, ei gyhoeddiadau, ei gyrsiau hyfforddi, ei gyrsiau i swyddogion gemau, ei gyrsiau hyfforddi sgiliau, ei ymwneud â'r cyfryngau a'i arwyddion. Mae URC yn cynnig cyfleusterau ar gyfer cynnal cyfweliadau â'r cyfryngau drwy gyfrwng y Gymraeg ledled y byd, lle bynnag y mae timau Cymru yn chwarae.

Further reading