Bala v Rhuthun Hydref 7ed 2017 Swalec Plate - Match report

By Martin Thomas

Bala v Rhuthun Hydref 7ed 2017 Swalec Plate - Match report

Y Bala 10 - 13 Rhuthun

Mae clybiau rygbi’r Gogledd yn chwarae mewn tair cystadleuaeth - y Gynghrair, sy’n profi pwy yw’r tîm gorau drwy’r tymor, y Gwpan, sy’n gêm galed a chyffrous ac ar y diwrnod gallai unrhyw dîm ennill, ac mae gêm am blat, sy’n cynnwys holl dimau is-adrannau Cymru a dyna oedd y gêm yn erbyn Rhuthun. Dydi’r awydd i ennill plat ddim yn ysgogi llawer ar dîm Y Bala. Tase ‘ne frechdan gaws neu gacen arno, mi fyddai wedi bod yn haws, ond mae ‘ne ddigon o blatiau yn ardal Y Bala, dim ots ble ewch chi mae ne rywun yn stwffio plat o flaen eich trwyn chi. Yn Rhuthun ar y llaw arall, ‘does ‘ne ddim platiau - mae ‘ne si bod un wedi’i weld ym mhumdegau’r ganrif ddwytha, mewn B&B ym Mhwllglas ond mae archaeolegwyr yn dal i gloddio amdano. Mae pobol Rhuthun wastad wedi bwyta ar ddarnau o goed neu ddail riwbob a chinio Sul yn cael ei weini mewn cap stabal. Roedd tîm Rhuthun felly’n benderfynol o gael eu dwylo ar blat a chreu hanes.

Cafwyd gêm galed a thynn ar Faes y Gwyniad rhwng Y Bala a Rhuthun. Roedd amddiffyn y ddau dîm yn gadarn yn ystod munudau cynta’r gêm a’r naill ochor na’r llall yn ildio llawer o dir. Ond Rhuthun aeth ar y blaen wrth i’r olwyr dorri trwodd a’r asgellwr yn sgorio yn y gornel, 0-5 a dyma sut arhosodd y sgôr hyd hanner amser.
Yr un oedd y patrwm eto yn yr ail hanner cyn i Rhuthun sgorio eu hail gais i’w gwneud yn 0-10 cyn taro cic gosb i’w gwneud yn 0-13 i’r ymwelwyr. Tasg anodd felly oedd yn wynebu’r Bala am weddill y gêm i geisio adennill tir.
Dechreuodd Y Bala ddarganfod patrwm erbyn diwedd y gêm wrth i’r blaenwyr hyrddio’n gryf am y gornel ac Endaf / Moi yn tirio’r bêl (y ddau’n rhy glên i hawlio pwy sgoriodd!), 5-13.
Gydag ychydig funudau’n weddill llwyddodd Elgan T’Isa i ymestyn a sgorio’n daclus yn y gornel i roi gobaith i’r Bala, ond yn anffodus, dyma sgôr ola’r gêm. 10-13 i Rhuthun.
I ffwrdd yn Llandudno fydd y gêm Sadwrn nesa’.

Tudur Lynch

Updated 16:25 - 1 Sep 2019 by Gary Williams

Where next?

Pantomein Clwb Rygbi’r Bala Pantomein Clwb Rygbi’r Bala
Bala v Caernarfon Medi 30ain 2017 - Match report Bala v Caernarfon Medi 30ain 2017 - Match report

Video Advertising

Comments

Loading comments

Results
Sat 6 Apr
a
Bala 1st XV Llandudno RFC
League 24 – 7
L
Sat 23 Mar
h
Bala 1st XV Llandudno RFC
League 20 – 18
W

Affiliations

Club sponsors