Daeth ton o dristwch dros glybiau rygbi Y Gogledd o glywed am farwolaeth Emrys Evans, aelod o glwb rygbi Nant Conwy o ganlyniad i ddamwain. Roedd brwdfrydedd ac ymroddiad Emrys yn ei wneud yn chwaraewr o safon. Yn ffeinal Cwpan Gogledd Cymru y llynedd yn erbyn Y Bala, Emrys oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm. Mae Clwb Rygbi’r Bala’n mynegi eu cydymdeimlad dwysaf â theulu Emrys yn eu profedigaeth lem.
Cychwynodd Y Bala ar y droed flaen gan chwarae â thempo uchel, gan edrcyh i ledu’r bêl. Arweinioddd hyn at gais cynnar i Elgan Tisa wrth i’r olwyr ddangos dwylo da a phasio’r bêl yn y dacl a doedd dim digon o amddiffynwyr ar ôl i stopio Elgan. Y Bala fu’n rheoli’r hanner cyntaf wrth i gyfnod arall o bwyso eu harwain at y pyst a Dave Yates yn hyrddio ei ffordd dros y llinell gais, 12-0 i’r Bala. Tawel fu gweddill yr hanner, wrth i’r cae fynd yn fwy mwdlyd a’i gwneud yn anodd i’r Bala ddefnyddio eu holwyr, felly roedd pethau’n haws i amddiffyn yr ymwelwyr. 12-0 ar yr hanner.
Daeth Yr Wyddgrug allan ar dân yn yr ail hanner, gan sgorio trosgais a chig gosb yn y pum munud cyntaf, 12-10. Yna deffrodd Y Bala eto a diolch i gicio cryf gan y blaenwyr aeth Mathew Bevan dros y llinell gais, ond method dirio’r bêl. Ond Ilan oedd yno’n gyntaf, i gymryd y bêl a sgorio’r cais. Trosiad llwyddiannus gan Owain, 19-10. Llwyddodd Owain efo cic gost i gynyddu’r fantais, 22-10.
Ymladdodd yr ymwelwyr eto am gais arall i gadw’r ornest yn fyw, 22-17, cyn i’r Bala selio’r fuddugoliaeth gyda sgarmes symudol wych a drafaeliodd rhyw ddeugain llath a Robin Owen yn ei rheoli’r holl ffordd. Roedd Endaf yn y cefn yn barod i dirio, 27-17. Llwyddodd Yr Wyddgrug â chic gosb cyn y chwiban olaf a sicrhau pwynt bonws gan nad oedd mwy na 7 pwynt rhwng y ddau dîm, 27-20.
Gêm i ffwrdd yn erbyn Llandudno fydd y nesa’, Sadwrn Mawrth 25.
Guto Lynch
# | Team | Pl | Pts |
1. | Pwllheli | 22 | 103 |
2. | Nant Conwy | 22 | 101 |
3. | Caernarfon | 22 | 78 |
4. | Bala | 22 | 73 |
5. | Llandudno | 22 | 55 |
6. | Mold | 22 | 55 |
7. | Bro Ffestiniog | 22 | 45 |