Hoffai'r clwb ddiolch i bawb am eu cefnogaeth i wneud y noson o adloniant gyda Tudur Owen a Hogia Bodwrog yn llwyddiant neithiwr.
Diolch yn gyntaf i Tudur Owen am ddod adra i'w filltir sgwâr i'n diddanu gyda blas o'i daith newydd Parablu - mi fydd y daith hon yn sicr yn llwyddiant ysgubol yn 2019. Diolch hefyd i Hogia Bodwrog am ein diddanu ac am arwain y noson yn wych - mae'r hogia yma yn dalentog iawn.
Diolch i bawb wnaeth brynu tocyn a'n helpu i greu noson i'w chofio yn ein pentref bach ni. Roedd clywed yr anthem ar y diwedd yn wych.
Diolch i bwyllgor y clwb am gael y weledigaeth i greu y noson ac am wirfoddoli ar y noson i sicrhau fod pob dim yn mynd yn iawn.
Roedd yna bron i 200 o bobl yn Neuadd Glannau Ffraw neithiwr ac mae'r clwb unwaith eto yn falch o fedru dod â'r gymuned at ei gilydd. Mae neithiwr wedi profi bod gofyn am nosweithiau adloniant Gymraeg a pha mor bwysig yw adnodd fel y neuadd bentref leol.
Ein gobaith yw cyflwyno noson arall yn y dyfodol.
Mae'r clwb pêl-roed yn credu bod cydweithio gyda'r gymuned yn hollbwysig er mwyn dod â phawb at ei gilydd.
Finally a special thank you to Mike from the hall for his time, effort and commitment to make the night a success with us.
Updated 07:20 - 30 Aug 2019 by Gerallt Roberts