CPD Amlwch v CPD Amateuriaid y Blaenau

By Sion Jarman

Dydd Sadwrn / Saturday 27-08-2016

CPD Tref Amlwch 1 - 0 CPD Blaenau Amateurs
Seren Yr Amaturiaid - Gavin Lewis
Efallai eu bod nhw dal i chwilio am eu buddugoliaeth cyntaf o'r tymor, ond nid yw'r Amaturiaid yn chwarae fel tim sydd ar waelod y cynghrair. Mae safon eu chwarae yn hynod o ddeiniadol ar adegau, i ystyried mai dim ond 3 o'r chwaraewyr oedd yn chwarae i'r tim 1af y tymor dwaethaf, gyda'r gweddill yn yr ail dim - neu dal yn yr ysgol!!. Yr unig gwendid amlwg yw troi cyfleuoedd yn goliau. Gafodd yr Amaturiaid cynnig, ar ol cynnig eto ddoe, ond methu a'u gorffen.
Gyda prif sgoriwr, Kieron Ellis, wedi ei ychwanegu at y rhestr o anafiadau, bydd rhaid i'r gweddill o'r ymosodwyr cymeryd cyfrifoldeb a camu i fyny o flaen gol.
Aeth Amlwch ar y blaen 5 munud cyn hanner amser, pan peniodd amddidffynwr Amlwch o gic gornel, yn erbyn llif y chwarae, ar ol i ergyd Geraint Edwards cael ei glirio oddi ar y lein gol. Daeth Gavin Lewis i'r achub just cyn hanner amser i sicrhau mai 1-0 oedd y sgor hanner amser ac nid dwy i ddim.
Aeth Yr Amaturiaid ati yn yr ail hanner i hawlio'r meddiant, wrth iddynt ymosod tro ar ol tro, i ceisio tynnu nol yn gyfartal - ond methwyd.
Un peth sydd yn braf i'w adrodd yw'r ffaith bod ysbryd yr 'ogia yn uchel iawn, gan eu bod nhw'n teimlo balchder mawr o'r cynnydd maent wedi dangos mewn cyfnod byr, rhan safon eu chwarae. Mae colli gemau o un gol, dwy gol yn profi eu bod nhw'n mwy na thebol o rhoi prawf i unrhyw dim profiadol yn y cynghrair 'ma. Mae lwc Yr Amaturiaid o flaen y gol 'na siwr o newid!!! Dal ati 'gia, mae pawb tu ol i chi!!

Updated 14:00 - 3 Sep 2019 by Sion Jarman

Where next?

Cwpan Cymru CPD Bae Cemaes v CPD Amateuriaid y Blaenau

Video Advertising

Comments

Loading comments

Results
Sat 19 May
a
1st Team Meliden
League 4 – 1
L
Sat 12 May
a
1st Team Bodedern Ath
League 2 – 0
L
Mon 7 May
h
1st Team Y Felinheli
League 2 – 3
L
Sat 5 May
h
1st Team Aberffraw
League 6 – 2
W

News sponsors

Affiliations

Club sponsors