Bala v Caernarfon Medi 30ain 2017 - Match report

By Martin Thomas

Bala v Caernarfon Medi 30ain 2017 - Match report

Y Bala 24 - 17 Caernarfon
Cefnogwr mwyaf enwog clwb rygbi’r Cofis ydi’r Cwîn. Mae hi’n darllen adroddiade am eu gemau ac os nad ydi hi’n licio be’ ma’ hi’n ei weld, mae hi’n colli’i limpyn ac mae ei choron yn hedfan wrth iddi waldio ei gwr a’i mab hynaf efo copi o’r Cyfnod. Felly er mwyn sicrhau heddwch ym Muckingham palas fydd ‘ne ddim tynnu coes yr wsnos yma, dim ond adroddiad teg am y gêm. Mi ddaw y gwawdio’r wsnos nesa’, gyda sêl bendith y Cwîn, ar ôl i i ni chwarae Rhuthun. Tydy’r Cwîn ddim yn licio nhw am ei bod hi wedi cael têc awê doji yno ar ei ffordd nôl o drip Ysgol Sul i Rhyl ac mi fuodd un o’i chorgwn a’i gwr yn sâl am ddyddie.

O’r funud gyntaf Y Bala oedd i weld y tîm cryfaf yn yr ornest wrth iddyn’ nhw gadw’r bêl a’i hail-gylchu’n daclus. Yn dilyn cyfnod o ymosod ac ennill tir yn dda drwy’r blaenwyr lledwyd y bêl gan yr olwyr cyn i Iestyn ffugio pas a rhedeg yn glir am y llinell gais. Sgôr gynta’r p’nawn, 5-0. Yr un oedd y patrwm yn dilyn y gic ail-ddechrau, Y Bala’n hyderus gyda’r bêl yn eu dwylo ac yn ennill tir yn dda. Wrth ymosod, penderfynwyd cadw’r bêl yn fyw yn nwy ar hugain Caernarfon i geisio cyflymu’r chwarae a glaniodd y bêl yn nwylo Iestyn unwaith yn rhagor wrth iddo sgorio dan y pyst am ei ail gais yn y gêm. Mae rhai chwaraewr yn chwarae’n well pan nad ydi eu tadau yn gwylio ac yn rhegi ar y reffari. Owain yn ychwanegu’r trosiad, 12-0. ;Doedd ei dad yntau ddim yn gwylio’r gêm. Nid dim ond drwy chwarae taclus roedd Y Bala’n cael y gorau ar Gaernarfon yn ystod yr hanner cyntaf. Roedd y sgrym a’r blaenwyr yn llwyddo i wthio’r gwrthwynebwyr yn ôl ar bob cyfle hyd nes i’r dyfarnwr benderfynu rhoi cais cosb i’r Bala wrth i Gaernarfon droseddu’n ormodol ar eu llinell gais eu hunain. 19-0 ar yr hanner.
Rhaid rhoi clod i Gaernarfon am eu hymdrech yn ystod yr ail hanner, ‘doedden nhw ddim am roi’r ffidil yn y to yn dilyn yr hanner cyntaf gwael. Cawsant eu pwyntiau cyntaf wrth i’r asgellwr sgorio yn y gornel cyn i Ilan “Yogi” rwygo’r bêl allan o sgarmes ymosodol a rhuthro am y llinell gais i sgorio ail gais yr ymwelwyr, 19-10 i’r Bala.
Yn dilyn cyfnod rhwystredig i’r Bala ar ddechrau’r ail hanner daeth cyfle i ymosod yn nwy ar hugain y gwrthwynebwyr. Gwelwyd amddiffyn cadarn gan Gaernarfon ond ail-gylchwyd y bêl yn ddisgybledig gan Y Bala hyd nes i Owain gael agoriad a sgorio yn y gornel i sicrhau pwynt bonws, 24-10.
Unwaith yn rhagor ‘doedd Caernarfon ddim am roi’r gorau i’w hymdrechion ac yn dilyn ymosodiad taclus, sgoriodd eu heilydd yn y gornel, cyn i’r maswr ychwanegu’r trosiad, 24-17. Dyma sgôr ola’r gêm a’r Bala aeth â hi yn y pen draw.
Gêm gwpan adref yn erbyn Rhuthun sydd yr wythnos nesaf. Dewch draw i Faes y Gwyniad i gefnogi’r hogie.

Tudur Lynch

Updated 16:30 - 1 Sep 2019 by Gary Williams

Where next?

Bala v Rhuthun Hydref 7ed 2017 Swalec Plate - Match report Bala v Rhuthun Hydref 7ed 2017 Swalec Plate - Match report
Bala U16s v Dolgellau U16s Oct 6th 2017 Bala U16s v Dolgellau U16s Oct 6th 2017

Video Advertising

Comments

Loading comments

Results
Sat 6 Apr
a
Bala 1st XV Llandudno RFC
League 24 – 7
L
Sat 23 Mar
h
Bala 1st XV Llandudno RFC
League 20 – 18
W

Affiliations

Club sponsors