Bala 1st XV - Match centre

Bala
Llandudno
D Roberts, E Evans (2)
Tries
R Jones (3)
Conversions
R Jones (3)
Penalties
Sat 12 Nov 13:30 - WRU National Leagues - North Wales Division One Full time

Match Report Bala v Llandudno Tachwedd 12ed 2016

By

Match Report Bala v Llandudno Tachwedd 12ed 2016

Ma’ ‘ne gryn dipyn o anafiadau ymysg tîm Y Bala’r dyddie yma, gymaint felly fel bod yr hen ben a’r Dyn Tarw Potel, Ifan Hughes, ar y fainc. Mae gweld fan Dyn Tarw Potel yn y parking yn codi ofn a braw ar wrthwynebwyr sidêt yr arfordir gan eu bod yn gwybod na fedran nhw guddio na chysgodi’r bêl mewn cilfachau tywyll gan fod y dyn AI yn bownd o ddod o hyd iddi. Roedd yna ansicrwydd mawr felly ymysg pac Llandudno o’r cychwyn cyntaf. Roedden nhw;n lwcus nad oedd Clwyd yn chwarae, a’i dad Rhys yn cefnogi, oherwydd, mi fase ne ddwy fan Dyn Tarw Potel yn y parking! Go brin y base Llandudno wedi dod allan o’r bws!

Prynhawn gwlyb oedd yn wynebu’r Bala a Llandudno ddydd Sadwrn ond nid amharodd yr amodau ar safon y chwarae. Dechreuwyd y gêm gyda’r ddau dim yn cadw’r bêl yn dynn a Llandudno sgoriodd y pwyntiau agoriadol gyda chic gosb, 0-3. Ymatebodd Y Bala’n gadarn gyda’r pac yn hyrddio mlaen yn gryf, yn enwedig yn y sgrymiau. Enillodd Y Bala gic gosb ar linell dwy ar hugain Llandudno ar ôl cynfod yn hanner y gwrthwynebwyr. Tarodd Rhydian y bêl yn bert gan unioni’r sgor, 3-3.
Y Bala oedd i weld yn rheoli’r gêm erbyn diwedd yr hanner a gydag ychydig funudau yn weddill, hyrddiodd sgrym Y Bala’n gryf unwaith yn rhagor gyda Dochan yn cadw rheolaeth dda ar y bêl efo’i draed ac yn tirio’r bêl am gais cynta’r gem. Ciciodd Rhydian y trosiad, 10-3 ar yr hanner.
Dechreuodd Y Bala’r ail hanner gyda’r un patrwm, y blaenwyr yn fistar corn ar flaenwyr y gwrthwynebwyr hyd nes i’r sgrym orfod newid i fod yn un ‘uncontested’ (digystadleuaeth??). Llwyddodd Y Bala i weithio’u ffordd i hanner Llandudno cyn ail-gylchu’r bel yn gyflym ar yr ochr dywyll a’i throsglwyddo i Elgan T’isa ar yr asgell a redodd o dan y pyst i sgorio ei gais cynta’. Rhydian yn trosi eto, 17-3.
‘Doedd Llandudno ddim am roi’r ffidil yn y to a gyda chyfuniad o ddiffyg disgyblaeth gan Y Bala, gwelwyd y tîm cartref yn cael eu gwthio’n ol at eu llinell gais eu hunain cyn i Landudno ledu’r bêl yn daclus a sgorio yn y gornel. Llwyddo gyda’r traed hefyd, 17-10.
Cymerodd Y Bala afael gadarn ar y gêm yn dilyn hyn gyda dwy gic gosb lwyddiannus gan Rhydian i’w rhoi 23-10 ar y blaen ond unwaith yn rhagor daeth Llandudno’n ôl gyda chais taclus yn y gornel, 23-15. Sicrhawyd y fuddugoliaeth wrth i amddiffyn Y Bala orfodi camgymeriad gan Landudno wrth iddyn nhw geisio clirio’r bêl yn eu dwy ar hugain eu hunain. Cicwyd y bel drwodd ac Elgan T’isa oedd y cyntaf i’w chyrraedd a sgorio ei ail gais. Rhydian yn llwyddo unwaith yn rhagor gyda’r trosiad ac yn sicrhau sgôr derfynol o 30-15 i’r Bala.

Y Sadwrn nesaf mae’r rhan fwyaf o’r tîm a’r cefnogwyr yn mynd ar stag Iwan Garthnant i Kilkenny yn Iwerddon. Mae’n debyg y cân’ nhw gyfle i wylio’r Crysau Duon yn erbyn Iwerddon. Mi fydd yn dipyn o achlysur, gan fod pobol fel El Ty Nant, Clwyd Jet a Megi’n mynd. Bendigeidfran oedd yr un dwytha’ i fynd ar stag i Iwerddon ac ma’ pobol yn dal i siarad am hynny! Os bydd pawb wedi dod dros y trip, gêm oddi cartre’ yn erbyn Caernarfon fydd hi wythnos i ddydd Sadwrn.

Tudur Lynch

Key moments

30:00
Penalty Rhydian Jones kicks a penalty for Bala
39:00
Try Dochan Roberts scores for Bala
8:00
Penalty Rhydian Jones kicks a penalty for Bala
15:00
Try Elgan Evans scores for Bala
16:00
Conversion Rhydian Jones kicks a conversion for Bala
28:00
Penalty Rhydian Jones kicks a penalty for Bala
39:00
Try Elgan Evans scores for Bala
40:00
Conversion Rhydian Jones kicks a conversion for Bala
40:00
Conversion Rhydian Jones kicks a conversion for Bala

Highlights

View 0 new events
40:00 Conversion 28 - 0
Rhydian Jones kicks a conversion for Bala
40:00 Conversion 30 - 0
Rhydian Jones kicks a conversion for Bala
39:00 Try 26 - 0
Elgan Evans scores for Bala
35:00 Sub On
Ilan Jones is substituted on for Bala
30:00 Sub On
Luis Prieto Martinez is substituted on for Bala
28:00 Penalty 13 - 0
Rhydian Jones kicks a penalty for Bala
20:00 Sub On
Luis Prieto Martinez is substituted on for Bala
16:00 Conversion 10 - 0
Rhydian Jones kicks a conversion for Bala
15:00 Try 8 - 0
Elgan Evans scores for Bala
10:00 Sub On
Mathew Befan is substituted on for Bala
10:00 Sub On
Endaf Jones is substituted on for Bala
8:00 Penalty 3 - 0
Rhydian Jones kicks a penalty for Bala
End of period 1
39:00 Try 21 - 0
Dochan Roberts scores for Bala
30:00 Penalty 16 - 0
Rhydian Jones kicks a penalty for Bala
Start of the game
Replay game

As it happened

  • Bala
  • Llandudno
  • 0
  • Rhydian Jones Penalty 30:00'
  • Dochan Roberts Try 39:00'
  • Rhydian Jones Penalty 8:00'
  • Mathew Befan Sub On 10:00'
  • Endaf Jones Sub On 10:00'
  • Elgan Evans Try 15:00'
  • Rhydian Jones Conversion 16:00'
  • Luis Prieto Martinez Sub On 20:00'
  • Rhydian Jones Penalty 28:00'
  • Luis Prieto Martinez Sub On 30:00'
  • Ilan Jones Sub On 35:00'
  • Elgan Evans Try 39:00'
  • Rhydian Jones Conversion 40:00'
  • Rhydian Jones Conversion 40:00'

Video Advertising

Team selection

Team selection has not been published for this fixture yet.

League round up

Other North Wales Division One results

Ruthin
5
55
35
7
Bethesda
Pwllheli
P
P

Comments

Loading comments

League table

# Team Pl Pts
1. Pwllheli 22 103
2. Nant Conwy 22 101
3. Caernarfon 22 78
4. Bala 22 73
5. Llandudno 22 55
6. Mold 22 55
7. Bro Ffestiniog 22 45

Team sponsors

Affiliations

Club sponsors