Roedd hanner tîm Y Bala wedi mynd ar stag i Nottingham ac roedd Gwgs yr hyfforddwr a T.P. y cadeirydd yn wallgo, nid oherwydd nad oedd ganddyn nhw dîm i fynd i’r Blaenau o bobman, ond am na chawson nhw wahoddiad i’r stag! (‘Doedd hen bobol ddim yn cael mynd!) Wna’ i ddim enwi stag pwy oedd o, rhag ofn i gefnogwyr Y Bala ymosod arno ond mi aeth ei frodyr, Siôn a Tudur Lynch hefyd, er mawr cywilydd iddynt, i chwilio am Lady Marion. Roedd Nottingham ar un adeg yn eiddo i’r Cymry a’r enw arni oedd Tref yr Ogof. Yn ddiweddarach daeth barnwr Seisnig o’r enw Snot i feddiannu’r lle a fe’i gelwid am gyfnod yn Snotland, tref y baw trwyn. Chwarae teg i Bro, mi wnaethant yn wreiddiol gytuno i ganslo’r gêm, nes iddyn’ nhw sylweddoli ei bod hi’n Sadwrn y noddwyr yn y clwb, ac yn ddiwrnod i’r teulu fwynhau. Fe ddaeth torf dda allan i ddathlu a hyd yn oed y merched yn cael mynediad i’r clwb i wneud bwyd. Fel Y Bala, mae’n glwb ynghanol y gymuned ac yn dawel bach roedd eu cefnogwyr yn hyderus y gallent guro tîm Y Bala nad oedd ar eu cryfaf, ond siom fawr gawson nhw.
Gyda gymaint yn ei stagio hi, roedd yn gyfle gwych i chwaraewyr ifanc y clwb wneud eu marc ac mi wnaethant hynny gan chwarae gêm ar dempo uchel a pharhau efo athroniaeth Gwgs o ledu’r bêl ar bob cyfle. Gyda’r hen ben Ifan Hughes yn meistrioli’r pac, Dochan ymhobman a Clwyd yn arwain y cefnwyr, roedd Y Bala ar dân a’r criw ifanc yn teimlo’n gartrefol iawn yn y tîm cyntaf. Chafodd Bro mo’r cyfle i fygwth llinell Y Bala o gwbwl, drwy’r pnawn. Roedd Eben yn gywir iawn efo’i gicio gan fwrw Bro yn ôl yn gyson a fo gafodd bwyntiau cyntaf Y Bala. Da ei weld yn ôl ar ôl triniaeth ar ei benglin. Roedd Robin a Miall yn creu hafoc efo’r bêl yn eu dwylo ac Ilan Talybont yn dechrau ei gêm gyntaf yn gadarn, gan brofi ei ddawn ar y safon yma. Garan gafodd gais cyntaf Y Bala gan ddangos ei gryfder yn gwthio drosodd. Cynnyrch y tîm ieuenctid ydi Garan, er ei fod bellach wedi hen ennill ei le yn y tîm cyntaf. Eben yn gywir efo trosiad gwych i’w gwneud hi’n 0 - 10 i’r Bala. Gyda Bro yn chwarae i lawr y rhiw yn yr ail hanner, roedd disgwyl amser caled ond llwyddodd Y Bala i godi eu gêm i lefel arall, gan daclo’n ffyrnig a bygwth llinell Bro ar sawl achlysur. Daeth Daniel Thabo Morgan ac Owain Tudur ymlaen am eu gêm gyntaf a phrofi eu bod yn barod i chwarae ar y lefel yma. Diolch i Daf Ty Cap, hyfforddwr yr ieuenctid, am feithrin yn hogie ifanc sydd â chalon, ond yn bwysicach, yn mwynhau chwarae i’r clwb. Un arall yn y sgwad oedd Ceredig Puw, oedd yn ysu am gêm ac mi ddaw ei gyfle o yn fuan iawn. Cic adlam gan Eben i gwbwlhau’r fuddugoliaeth.
Braf oedd gweld nifer o rieni newydd yn gwylio’r bechgyn yn gwneud eu marc. Fel dudodd y bardd “Ond rhieni newydd sydd ar y hen feysydd hyn.” Braidd yn dawel a diniwed oeddent - a ddim cweit yn deall be’ ydi bod yn gefnogwyr go iawn - gweiddi, rhegi ar y reffari a gwylltio cefnogwyr y tîm arall. I’w helpu ar gyfer gemau’r dyfodol, mae’r Parchedig H.D. Jones wedi cytuno i gynnal cyrsiau hyfforddi ar ddiwedd pregeth bob nos Sul. Dowch yn llu! Seibiant rwan dros gyfnod gemau’r Chwe Gwlad.
Un Na Chafodd Wahoddiad i’r Stag Dw!
# | Team | Pl | Pts |
1. | Pwllheli | 22 | 103 |
2. | Nant Conwy | 22 | 101 |
3. | Caernarfon | 22 | 78 |
4. | Bala | 22 | 73 |
5. | Llandudno | 22 | 55 |
6. | Mold | 22 | 55 |
7. | Bro Ffestiniog | 22 | 45 |