Match Report Bala v Bae Colwyn Ebrill 22ain 2017
By Martin Thomas
Match Report Bala v Bae Colwyn Ebrill 22ain 2017
Roedd yn ddiwrnod braf o wanwyn, wyn bach yn prancio, ffermwyr yn hapus ar ôl tymor wyna briliant, ond athrawon yn edrych yn ddigalon am fod y gwyliau drosodd ac ychydig wythnosau o waith o’u blaenau cyn y gwyliau nesaf. Roedd Y Bala’n benderfynol o godi gêr yn barod am y gêm derfynol yng Nghwpan Gogledd Cymru sy’ ar y gorwel. A dyna ddigwyddodd dydd Sadwrn gan roi hwb mawr i’r hyder wrth chwarae yn erbyn Bae Colwyn. O’r eiliad gyntaf, y tîm cartref fu’n rheoli, gan ddominyddu’r sgrym a thorri’r llinell fantais yn rhwydd. Daeth cais o un o’r ymosodiadau cyntaf, wrth i’r bêl gael ei lledu allan a Tom Hughes yno i orffen y symudiad, 5-0 ar ôl dau funud.
Yna sefydlwyd patrwm y gêm - ail-ddechrau gan yr ymwelwyr, yna’r Bala’n cadw’r meddiant gan sgorio’n hawdd drwy gydol yr hanner cyntaf, gan gario’r bêl yn rymus a dadlwytho’n hyderus yn y dacl, roedd hi’n 50-0 ar ôl hanner awr. Cafodd yr ymwelwyr un foment i’w chofio wrth iddynt gael ‘interception try’ yn dilyn pas lac gan Ow……..na, wna’ i mo’i enwi o!! 57-7 ar yr hanner.
Blêr fu’r ail hanner a phawb o dîm Y Bala’n trio sgorio yn lle chwarae i batrwm. Roedd pennau’r ymwelwyr ar i lawr a’r gwres ddim yn eu helpu rhyw lawer, ond dal arni wnaeth Y Bala gydag Owain Aled yn sgorio cais ar ddechrau’r ail hanner, gan wneud 100 pwynt yn bosibilrwydd a dyna ddigwyddodd yn symudiad olaf y gêm.
Dyma restr y sgorwyr - Iestyn(3), Rhydian(2), Garan(2), Elgan(2), ac Owain, Bevan, Chris, Dion, Miall, Clwyd, Tom Hughes, Tony Parry, Monti, Bryn Parc a Huw Dylan i gyd yn cael un yr un.
Pwllheli adref fydd hi’r wythnos nesaf, rhagflas o’r ffeinal a gêm yn erbyn Caernarfon nos Iau y 4ydd o Fai - cyfle i’w pasio yn y gynghrair!! Hefyd, braf oedd gweld Chris Strut a Siôn Lynch yn ôl yn chwarae am ryw hanner awr ar ôl bron i flwyddyn allan efo anafiadau.
Guto Lynch