Match Report Bala v Dinbych Rhagfyr 15ed 2018

By Martin Thomas

Match Report Bala v Dinbych Rhagfyr 15ed 2018

Dolig Cynnar i’r Bala
Y Bala 27-5 Dinbych
Mae’n dymor ewyllys da - partis capel, canu carolau a phrynu ibuprofens ac anti-acids. Mae amryw o chwaraewyr y clwb eisoes wedi prynu anrhegion i’w partneriaid. Mae sawl un yn credu bod yr arferiad o brynu anrhegion yn mynd nôl i’r Doethion yn landio yn y stabal efo aur, thus a myrr ond mae’n arferiad hŷn na hynny, sy’n mynd nôl i hen ŵyl baganaidd pan oedd pawb yn addoli’r haul ac yn dathlu ei fod yn dechrau cryfhau. Byddai dynion ifanc oedd yn methu fforddio mynd i’r off licence yn mynd rownd ogofâu’r dosbarth canol ac yn cael anrhegion ar ffurf cwrw a gwin gan feddwi’n dwll a chysgu yn y cloddiau. Rhyw arferiad tebyg i ganu carolau yn ardal Llangwm heddiw. Byddai merched hefyd bryd hynny’n aros adref ac yn rhoi anrhegion oedd yn gysylltiedig â’r haul i’w gilydd, fatha eli haul a bicinis. Mae’r amrywiaeth o anrhegion mae’r chwaraewyr rygbi wedi eu prynu i’w partneriaid yn deud y cyfan amdanynt – a dyma gystadleuaeth fach i orffen y flwyddyn, “Pwy Sy Di Prynu Be?” Dyma’r rhestr : sebon siafio, sosbon, sach o datws, deep fat fryer, olew i roi ynddo fo, greindar chwe modfedd. Atebion i’r arch-bresantwr, ein Cadeirydd, Tony Parry – y wobr fydd mynediad am ddim i’r gêm nesa a sosej rôl gynnes.
Doedd Y Bala ddim mewn ysbryd rhoi anrhegion i Ddinbych ac o’r dechrau chwaraewyd ar dempo cyflym, mewn tywydd ofnadwy ac ar gae mor soeglyd, mi fyddai ffarmwrs Cwm wedi bod yn gartrefol arno. Ar ôl 25 munud sgoriodd Ilan Rowlands gais wrth i’r sgarmes symudol fynd am lein Dinbych. Yn fuan wedyn ychwanegodd Owain gic cosb, 8-0 a dyma’r sgôr ar yr hanner, wrth i’r dorf ei heglu hi am ystafell Yogi i gael paned boeth. Newidiodd y Bala i gêr arall yn yr ail hanner a doedd gan Dinbych ddim gobaith byw efo nhw. Sgoriodd Mathew Bevan, Ilan eto ac Owain Puw geisiau, efo Owain Aled yn trosi dwy ohonynt, 27-0, blaenwyr yn sgorio’r ceisiau i gyd. Maen’ nhw’n deud mai blaenwyr sy’n sicrhau nad ydi tîm yn colli gêm ac mai cefnwyr sy’n ennill gêm, ond fel arall rownd oedd hi’r Sadwrn yma. Mae’r sgwad i gyd yn cyfrannu ar hyn o bryd efo Dion Atherton ac Iwan Hanmer yn gorfod symud i’r asgell yn gwneud gwaith rhagorol. Daeth Endaf a Ceredig Puw ymlaen hefyd gan sicrhau nad oedd tempo’r gêm yn newid o gwbwl. Gan ei bod yn Ddolig, cafodd Dinbych rodd bach o gais i fynd adre efo nhw, 27-5 y sgôr terfynol.
Does dim gêm y Sadwrn nesa, ond wedyn ar Sadwrn ola’r flwyddyn, mae’r Bala’n chwarae Nant yn Llanrwst – wel, os bydd hi ‘di stopio bwrw a swyddogion clwb Nant wedi hel y crancod a’r pysgod oddi ar y cae. Y si ydi bod ‘ne gorals prin yn tyfu yno! Dowch yn eich welintyns gawsoch chi’n bresantau Dolig i gefnogi. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd – ac i bawb yn Nant Conwy!
Gohebydd y Wasg

Updated 07:45 - 30 Aug 2019 by Martin Thomas

Where next?

Match report Nant Conwy v Y Bala Rhagfyr 29ain 2019 Match report Nant Conwy v Y Bala Rhagfyr 29ain 2019
Match report Caernarfon v Y Bala Rhagfyr 1af 2018 Match report Caernarfon v Y Bala Rhagfyr 1af 2018

Video Advertising

Comments

Loading comments

Fixtures
la 27 huhti
h
Bala 1st XV Caernarfon RFC
League 14:30

Affiliations

Club sponsors