Match Report Bala v Llangefni Ionawr 29ain 2019

By Martin Thomas

Match Report Bala v Llangefni Ionawr 29ain 2019


Cnoc Arall i Wÿr Mawr Môn
Y Bala 24 - 11 Llangefni
Mae Llangefni’n brwydro’n galed ar waelod y gynghrair, ond dyma’r math o dîm sy’ wedi creu problemau i’r Bala’r tymor yma, yn enwedig ar eu tomen eu hunain. Mae rhyw nerfusrwydd yn cydio yn y tîm fel tase rhaid iddyn nhw sefyll yn noethlymun yn eu gerddi, o flaen y cymdogion! Gymaint haws ydi gneud hynny yn Torremolinos, neu yn Cwm Cynllwyd. Cyrhaeddodd Llangefni mewn bws ac mae hynny wastad yn awgrymu eu bod wedi dod i chwarae’n galed ac i fwynhau wedyn yng nghlybiau a bariau’r dre. Mae bws yn golygu nad oes gwragedd a chariadon wedi dod i gadw trefn ar y tîm.
Llangefni wnaeth reoli’r hanner cynta’ gan fynd ar y blaen 0-6. Roedd ganddyn nhw giciwr peryglus, Rhys Hughes, oedd yn barod i gosbi’r Bala o unrhyw bellter. Tase hwn yn gweithio i Horizon, mi fyddai eu cynlluniau wedi hedfan rhwng y pyst ac o leia hanner Sir Fôn yn hapus. Efo’r cae’n fwdlyd a’r bêl fel sebon, byddai’n rhaid i’r Bala ddibynnu ar y blaenwyr i ennill y gêm hon. Er iddyn nhw ar brydiau geisio chwarae gêm agored, roedd pawb yn euog o ollwng y bêl neu ei tharo mlaen. Allai neb gyhuddo’r reffarî o ochri efo’r naill ochor na’r llall, achos doedd ganddo fo ddim syniad pa dîm oedd p’run, oherwydd yr holl fwd! Cadwodd Garan Davies ei lygad ar y bêl ac wrth i bac y Bala wthio am lein Llangefni, sgoriodd gais a droswyd gan Owain Aled. Tarodd Llangefni’n ôl yn gynnar yn yr ail hanner efo cais eu hunain, 7-11. Roedd Moch Môn yn profi eu bod nhw’n gallu gneud mwy na gwichian ar ddiwrnod lladd mochyn! Yn dilyn sgrym yn agos at lein Llangefni, gwthiwyd pac y Monwysion yn ôl a sgoriodd Garan ei ail gais, 12-11. Daeth trobwynt y gêm ar ôl 65 munud, pan roddodd y reffarî gais cosb i’r Bala ac anfon un o chwaraewyr Llangefni i’r gell gosb. Rheolodd Y Bala’n dilyn hyn a sgoriodd Dion Atherton ei bedwerydd cais ar ôl dod ymlaen a sefydlogi dipyn ar gefnwyr Y Bala. Roedd y nerfusrwydd wedi hen fynd a byddai’r tîm erbyn hyn yn barod i ddawnsio’n noethlymun o gwmpas cofgolofn Tom Ellis.
Pwllheli i ffwrdd y Sadwrn nesaf, gêm anodda’r tymor.
Gohebydd y Wasg

Updated 00:55 - 30 Aug 2019 by Martin Thomas

Where next?

SUMMER INTERNATIONALS 2019 SUMMER INTERNATIONALS 2019
Match Report Bala v Rhuthun Ionawr 5ed 2019 Match Report Bala v Rhuthun Ionawr 5ed 2019

Video Advertising

Comments

Loading comments

Results
la 27 huhti
h
Bala 1st XV Caernarfon RFC
League 36 – 19
W
ke 17 huhti
a
Bala 1st XV COBRA
League 13 – 9
L
la 13 huhti
h
Bala 1st XV COBRA
League 11 – 16
L

Affiliations

Club sponsors