Bala 1st XV - Match centre

Brynmawr
Clwb Rygbi Y Bala
Tries
R Jones (3)
Conversions
R Jones
Penalties
R Jones
la 29 loka 14:30 - Cup Full time

Match Report Brynmawr v Bala Oct 29th 2016

By

Match Report Brynmawr v Bala Oct 29th 2016

Mae Brynmawr ryw chwarter awr o’r Fenni, tref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni – nid fod tîm Brynmawr yn ymwybodol o hynny, yn ôl Tony Parry cadeirydd Y Bala. Mae ei gwaddol wedi hen ddiflannu medde fo, wrth i’r syrcas flynyddol symud i Sir Fôn. Ond roedd Brynmawr eisiau profi Mr Parry yn rong. Roedden nhw wedi gwneud eu gwaith cartref yn drwyadl a ddim am i dîm diwylliedig o fro’r Pethe gael y gore arnynt. Wrth i dîm Y Bala gyrraedd yr ystafell newid roedd yr adrenalin yn pwmpio ymysg chwaraewyr Brynmawr ac roedden nhw wrthi’n darllen cyfansoddiadau’r Brifwyl a nofel gwobr Daniel Owen ffwl pelt. Roedd tîm Brynmawr hefyd wedi gwisgo gwisg yr orsedd, mewn cobannau gwyn. Ond dwedodd y dyfarnwr wrthynt am gallio – dim ond cobannau gwyrdd a glas oedd ganddynt hawl i’w gwisgo fel kit, gan fod eisiau dangos parch at y wisg wen, oherwydd ei fod o wedi cael ei urddo i’r wisg wen gan yr Orsedd, a’i enw barddol oedd “Reff o’r De”.
Agorwyd y gêm gyda phac trwm Brynmawr yn cario’r bêl yn effeiothiol gan wthio’r Bala’n ôl at eu llinell gais. Ond fel y gwelwyd trwy’r pnawn, roedd taclo’r Bala’n gadarn a’r amddiffyn yn gweithio’u gorau glas i rwystro’r tîm cartref rhag torri drwodd. Llwyddodd Y Bala i glirio’r bêl ac ail-ennill y meddiant cyn lledu’r bêl yn daclus drwy’r dwylo ac ennill tir da cyn i Frynmawr gael eu cosbi am arafu’r bêl. Tarodd Rhydian y gic gosb rhwng y pyst a rhoi’r Bala ar y blaen, 0-3.
Ail-ddechreuwyd y chwarae gyda’r un patrwm, gyda blaenwyr Brynmawr yn cario’r bêl yn nerthol cyn i’r mewnwr bigo’r bêl a ffugio cyn bylchu a rhedeg o dan y pyst. Trosgais i’r tîm cartref, 7-3. O fewn dim, ymatebodd Y Bala wrth i Frynmawr geisio clirio’r bêl yn eu hanner eu hunain. Llwyddodd amddiffyn Y Bala i daro’r bêl lawr cyn i Rhydian ei tharo ar hyd y llawr a rhuthro ar ei hôl cyn ei thirio i sgorio cais cynta’r Bala. Tarodd y trosiad yn llwyddiannus, 7-10.
Roedd hyder i’w weld yn glir yn chwarae’r hogie ac roeddent yn gorfodi pac trwm Brynmawr i redeg o un ochr i’r cae i’r llall wrth ledu’r bêl yn hyderus. Wrth i amddiffyn Brynmawr flino, cymerodd Rhydian fantais drwy fylchu’n gyflym a rhedeg o amgylch dau amddiffynnwr a sgorio ei ail gais, 7-15 i’r Bala.
Ym munudau ola’r hanner enillodd Brynmawr linell yn ddwfn yn nwy ar hugain Y Bala. Wedi tafliad taclus, hyrddiodd eu blaenwyr ymlaen dros y llinell gais a sgorio eu hail gais, 14-15 ar yr hanner.
Gwelwyd patrwm tebyg yn ystod yr ail hanner gyda’r ddau dîm yn ceisio chwarae rygbi agored a thaclo cryf drwy gydol y pnawn. Llwyddodd canolwr Brynmawr i fylchu’n gyflym cyn ffugio’n daclus am sgôr cynta’r ail hanner o dan y pyst, 21-15 i Frynmawr.
Unwaith yn rhagor, yn ôl y daeth Y Bala wrth iddynt ddwyn y bêl yn un pen i’r cae a’i lledu i’r pen arall cyn i Rhydian ac Elgan T’isa basio’r bêl yn ôl a mlaen gan agor bwlch i Rhydian sgorio yn y gornel, 21-20.
Yn anffodus ni lwyddodd Y Bala i gael mwy o bwyntiau a daeth y gêm i ben gyda sgôr derfynol o 21-20 i Frynmawr. Rhaid rhoi canmoliaeth uchel i’r holl chwaraewyr am eu perfformiad bnawn Sadwrn a hwythau wedi dal ati tan yr eiliad olaf ac ennill parch yr hwntws! Diolch i’r holl gefnogwyr wnaeth y daith hir i lawr, roedd eich clywed ar ochr y lein yn help mawr i’r tîm!
Yn ôl pob sôn, cae Brynmawr yw’r cae rygbi ucha’ yng Nghymru, mae chwarae yno fel chwarae o flaen Nant y Cyrtie. Fe dreuliodd Tony Parry’r rhan fwyaf o’r gêm yn dadle efo cefnogwyr Brynmawr oedd yn honni nad oedd y llinell wych wnaeth o gyfansoddi ar gyfer yr achlysur : “Brwyn a mawn yw cae Brynmawr” yn gynganeddol gywir!

‘Does dim gêm y Sadwrn nesa’. Gwyliwch y gwagle am fanylion y gêm nesa’!
Tudur Lynch

Key moments

12:00
Penalty Rhydian Jones kicks a penalty for Clwb Rygbi Y Bala
18:00
Try Rhydian Jones scores for Clwb Rygbi Y Bala
19:00
Conversion Rhydian Jones kicks a conversion for Clwb Rygbi Y Bala
34:00
Try Rhydian Jones scores for Clwb Rygbi Y Bala
5:00
Try Rhydian Jones scores for Clwb Rygbi Y Bala

Highlights

View 0 new events
35:00 Sub On
Luis Prieto Martinez is substituted on for Clwb Rygbi Y Bala
25:00 Sub On
Miallt Roberts is substituted on for Clwb Rygbi Y Bala
15:00 Sub On
Mathew Befan is substituted on for Clwb Rygbi Y Bala
15:00 Sub On
Endaf Jones is substituted on for Clwb Rygbi Y Bala
10:00 Sub On
Robin Owen is substituted on for Clwb Rygbi Y Bala
5:00 Try 0 - 5
Rhydian Jones scores for Clwb Rygbi Y Bala
End of period 1
34:00 Try 0 - 20
Rhydian Jones scores for Clwb Rygbi Y Bala
19:00 Conversion 0 - 15
Rhydian Jones kicks a conversion for Clwb Rygbi Y Bala
18:00 Try 0 - 13
Rhydian Jones scores for Clwb Rygbi Y Bala
12:00 Penalty 0 - 8
Rhydian Jones kicks a penalty for Clwb Rygbi Y Bala
Start of the game
Replay game

As it happened

  • Brynmawr
  • Clwb Rygbi Y Bala
  • 0
  • Rhydian Jones Penalty 12:00'
  • Rhydian Jones Try 18:00'
  • Rhydian Jones Conversion 19:00'
  • Rhydian Jones Try 34:00'
  • Rhydian Jones Try 5:00'
  • Robin Owen Sub On 10:00'
  • Mathew Befan Sub On 15:00'
  • Endaf Jones Sub On 15:00'
  • Miallt Roberts Sub On 25:00'
  • Luis Prieto Martinez Sub On 35:00'

Video Advertising

Team selection

Team selection has not been published for this fixture yet.

Comments

Loading comments

Team sponsors

Affiliations

Club sponsors