Canlyniad gem ddoe, Cwpan Cymru qualifying rownd 1:
Cemaes Bay 4 - 2 Blaenau Amateurs
Goliau - Kieron Ellis 2(noddi gan DJ Gwil i Am)
Seren Yr Amaturiaid - Kieron Ellis
Mae rhaid i un feddwl beth yn union sydd rhaid i'r Amaturiaid wneud i ennill mymryn o lwc, wrth iddynt eto chwarae pel droed da yn Ynys Mon ddoe, ond yn anffodus nid meddiant a phel droed taclus sydd yn ennill gemau pel droed i chi y dyddiau hun.
Welodd golgeidwad Yr Amaturiaid, Gethin Jones, cerdyn coch, wrth iddo ildio 2 cic o'r smotyn mewn gem y bu ceisio anghofio am yn sydyn iawn. Hefyd, cafodd Aled Owen ac Olie Dukes eu ychwanegu at restr enfawr o anafiadau sydd gan Yr Amaturiaid, wrth i'r 2 ohonynt anafu penygliniau.
Kieron Ellis, sydd yn hen ben bellach yng nghanol yr hogia' ifanc sydd yn nhim Yr Amaturiaid, arweiniodd yr ymladd yn ol i'r Amaturiaid, wrth iddo sgorio 2 gol eto, 4 gol nawr yn ei 2 gem diwethaf. Ellis, sydd yn edrych yn heini iawn ar y funud ac yn amlwg mwynhau ei bel droed unwaith eto, yn haeddu canmoliaeth mawr ar y swydd mae'n ei wneud o arwain drwy esiampl. Dalier ati Kir, a daliwch chi ati hogia' - mi ddaw. #COYQM
Updated 14:16 - 3 Sep 2019 by Sion Jarman