Bala 1st XV
Matches
Sat 10 Sep 2016  ·  North Wales Division One
Colwyn Bay
5
58
Clwb Rygbi'r Bala
Bala 1st XV
Tries: G Lynch (2), R Jones, L Prieto Martinez, J Davies (2), I Rowlands, M Roberts, E JonesConversions: R Jones (5)Penalties: R Jones
Match Report  Bae Colwyn v Bala  Sept 10th 2016

Match Report Bae Colwyn v Bala Sept 10th 2016

Martin Thomas11 Oct 2016 - 05:27
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Match Report Bae Colwyn v Bala Sept 10th 2016

Hon oedd gêm gyntaf Bae Colwyn gartref yn y brif gynghrair ar ôl iddynt sicrhau dyrchafiad y llynedd. Pob lwc iddyn’ nhw yn erbyn pawb - heblaw’r Bala! Roedd ‘ne gryn edrych ymlaen ymhlith cefnogwyr Bae Colwyn at ymweliad Y Bala, wedi’r cwbl, fel tref maent wedi hen arfer delio efo ymwelwyr – eu hanfon nhw i’r Sŵ Mynydd i wylio’r mwncïod ac i’r prom i brynu jygiau llaeth efo llun gwylan arnynt, cyn eu boddi mewn deg peint o lager a byrgers. Roedden’ nhw’n meddwl felly y byddai’r Bala yn eithaf hawdd i ddelio efo nhw. Ond yn wahanol i’r Brummies a’r Sgowsars, ‘doedd tîm Y Bala ddim yma i fwynhau pleserau bywyd ond i wneud diwrnod o waith. Yn anffodus hefyd i Fae Colwyn, roedd hyfforddwr newydd blaenwyr Y Bala, Em Wern Buseg, yn dechrau ar ei ddyletswyddau’n helpu Gwgs. Un o deulu’r Rowlandsys ydi Em, teulu sydd dros y blynyddoedd wedi bod yn amlwg iawn ym myd barddoniaeth a cherdd dant, ond dwi’n amau rhywsut ydi Em wedi cael ei benodi er mwyn dysgu sol-ffa i’r tîm! Fel chwaraewr, roedd ganddo galon anferthol ac mi fydd yn trosglwyddo hynny i’r tîm – mi fydd ‘ne barchus ofn wrth iddo weiddi ar y lein ac nid jyst tîm Y Bala fydd yn ei glywed, ond y gwrthwynebwyr hefyd oherwydd mi fydd ganddo fo rywbeth i’w ddweud wrthyn nhw hefyd, ac nid Si-Hei-Lwli fydd o! Croeso, Em.
Cychwynnodd Y Bala ar dân gan ymosod yn syth ac ennill cic gosb gynnar, 0-3. Nid oedd y tîm cartref wedi disgwyl y fath dempo i gêm Y Bala ac yn fuan, gwthiodd blaenwyr Y Bala sgarmes symudol tua’r lein a llwyddodd Guto yn y cefn i ddeifio drosodd am gais haeddiannol i’r ymwelwyr a gyda chic lwyddiannus gan Rhydian roedd y sgôr yn 0-10. Yna’n syth o’r ail-ddechrau, rhyng-gipiodd Robin y bêl a rhedeg hanner hyd y cae am ail gais i’r Bala, 0-15.
‘Doedd dim llonydd i fod i’r tîm cartref gyda chwrso yr olwyr yn rhoi pwysau ar y cefnwyr a John Emrys yn dwyn y bêl a’i throsglwyddo i Tudur sgorio, 0-22. Dal i bwyso wnaeth Y Bala, gydag Owain Aled yn rheoli’r gêm ac wedi cyfnod o bwyso lledwyd y bêl i Guto dirio yn y gornel am gais arall i’r Bala, 0-27. Yna daeth cais da i’r olwyr, wrth sgorio yn syth o sgrym yng nghanol y cae, gyda John Emrys yn gorffen y symudiad gwych oedd wedi’i ymarfer, i’w gwneud yn 0-34.
Daeth hanner amser a chyfle i’r tîm cartref ail-drefnu ac wedi’r egwyl bu tua chwarter awr o rwystredigaeth i’r Bala wrth i’r tîm cartref daro’n ôl. Er hyn, pob clod i’r hogie, troed yn ôl ar y sbardun oedd hi wrth i Ilan groesi am gais ar ôl cwrso ei gic ei hun a daeth ceisiau hefyd i Miall, Fron Isa ac Endaf, cyn i John Em groesi am ei ail gais yn y gornel wedi symudiad da arall gan yr olwyr, 5-58. Cafodd Moli Haf, Hafod yr Esgob, darparwraig y ‘tee’ cicio, b’nawn prysur ac roedd hi wedi rhedeg mwy na rhan fwyaf o dîm Bae Colwyn! Llwyddodd Rhydian gyda 5 trosiad ac un gic gosb ond er mawr fwynhad i weddill y tîm, methodd â sgorio cais! Diolch i’r cefnogwyr am wneud y daith – mae eich cefnogaeth yn help mawr. Rhuthun adref yr wythnos nesaf, dewch yn llu!
Cafodd Bae Colwyn wers ond dwi’n siwr y gwant ddysgu o’r wers yma ac mi fydd Y Bala hefyd yn sylweddoli bod brwydrau caletach i ddod ac y bydd tonsils Em yn ratlo dipyn mwy bryd hynny!

Match details

Match date

Sat 10 Sep 2016

Kickoff

14:30

Competition

North Wales Division One

League position

1
Bala
8
Colwyn Bay
Team overview
Further reading

Team Sponsors

Plas Coch Hotel - Plas Coch Hotel
Builder - Eryl Roberts
Club Sponsor - Gwyn Roberts Construction a'i fab