Bala 1st XV
Matches
Sat 24 Sep 2016  ·  North Wales Division One
Clwb Rygbi'r Bala
Bala 1st XV
Tries: I Williams, O AledConversions: R JonesPenalties: R Jones
15
17
Bro Ffestiniog
Match report Bala v Bro Ffestiniog Sept 24th 2016

Match report Bala v Bro Ffestiniog Sept 24th 2016

Martin Thomas10 Nov 2016 - 16:48
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Match report Bala v Bro Ffestiniog Sept 24th 2016

Croeso’n ôl i glwb Bro Ffestiniog i’r brif gynghrair - roedd ‘ne golled ar eich holau y tymor diwethaf gan fod gemau rhwng Y Bala a Bro wastad yn achlysur i’w gofio. Daeth torf fawr i Faes y Gwyniad i weld y ddau hen elyn yn sgwario yn erbyn ei gilydd.
Cymerodd dipyn o amser i dorf Bro dynnu eu welintyns a’u leggings a chadw’u ambarels ar ôl cyrraedd ac amryw ohonynyt yn methu deall beth oedd yr awyr las. Roedd ganddynt gric yn eu gwar ar ôl edrych i fyny gyhyd! Roedd Bro wedi gwneud eu gwaith cartref ar dîm Y Bala ac yn ymwybodol bod yn rhaid iddynt rwystro eu cefnwyr rhag chwarae gêm agored – ac i raddau fe wnaethant lwyddo, gan gadw’r bêl ymysg eu blaenwyr gweithgar a nerthol. Ond gelyn pennaf Y Bala oedd nhw eu hunain, gan iddynt fethu gorffen symudiadau oedd yn haeddu ceisiau ac roedd y bás olaf yn flêr ac yn aml yn mynd i ddwylo un o’r gwrthwynebwyr.
O’r eiliad gyntaf, daeth yn amlwg fod pnawn caled o flaen Y Bala, gyda Bro’n ymosod yn gadarn ac yn ail-gylchu’r bêl yn gyflym. Er hyn, amddiffynnodd Y Bala’r hyrddiad cynnar heb ildio pwynt. Yna daeth cyfle’r tîm cartref a llwyddwyd â chic gosb gyda’r ymweliad cyntaf i hanner Bro, 3-0.
Yn dilyn, daeth cais da i’r Bala wrth adeiladu’n amyneddgar a sugno’r amddiffynnwyr i mewn, lledwyd y bêl i’r olwyr a gorffennodd Iwan y symudiad gyda chais, cais cyntaf y gweithiwr o Wersyll yr Urdd, Glan-llyn, i’r clwb a’i gêm orau hyd yma, 8-0.
Tarodd Bro’n ôl gyda chais cyn yr hanner, 8-7, cyn sgorio eto’n fuan yn yr ail hanner, 8-14. Cafwyd ymateb positif i hyn gan Y Bala, wrth i Owain Aled groesi am gais, 15-14. Llwyddodd Y Bala i groesi eto wedi symudiad a chyd-chwarae da a Dave Yates yn sgorio cais haeddiannol, ond er mawr sioc i bawb, gan gynnwys tîm Bro, rhoddodd y dyfarnwr gic gosb i’r ymwelwyr a gyrru un o bob tîm i’r gell gallio. Roedd y cyfan yn profi’r angen am well safon o ddyfarnu ar y lefel yma. Mae timau’n gweithio’n galed i godi lefel eu sgiliau a rhaid i ddyfarnwyr fod yr un mor broffesiynol a bod yn ymwybodol, er bod hwyl yn rhan annatod o’r gêm, nid chwarae am hwyl mae’r timau yma bellach. Un o Fethesda oedd y dyfarnwr a buddiol fyddai iddo astudio rheolau rygbi’r undeb cyn mynd i’w wely a darllen am hanes ei ardal hefyd, oherwydd ‘does neb yn fwy na thrigolion Bethesda yn gwybod be’ ydi anghyfiawnder. Ond wedi deud hynny, dylai’r Bala fod wedi ennill y gêm yma, reffarî neu beidio. Llwyddodd Bro gyda chic adlam yn y cyfnod yma i’w gwneud yn 15-17 ac fe wnaethant amddiffyn yn ddewr am weddill y gêm i atal y tîm cartref rhag sgorio. Dyma golled gyntaf y tymor i’r Bala.
Gêm anodd iawn y Sadwrn nesaf, oddi cartref yn erbyn y pencampwyr, Pwllheli, tîm sy’n teimlo’n fethiant os nad ydyn nhw’n sgorio o leia’ hanner cant o bwyntiau, felly prawf anferthol i’r Bala.
Guto Lynch

Match details

Match date

Sat 24 Sep 2016

Kickoff

14:30

Competition

North Wales Division One

League position

2
Bala
4
Bro Ffestiniog
Team overview
Further reading

Team Sponsors

Plas Coch Hotel - Plas Coch Hotel
Builder - Eryl Roberts
Club Sponsor - Gwyn Roberts Construction a'i fab