Bala 1st XV
Matches
Sat 22 Sep 2018  ·  Division 1 North
Mold RFC
18
18
Clwb Rygbi'r Bala
Bala 1st XV
Match Report Yr Wyddgrug v Bala

Match Report Yr Wyddgrug v Bala

Martin Thomas2 Oct 2018 - 17:27
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Match Report Yr Wyddgrug v Bala

Methu cipio’r castell!
Yr Wyddgrug 18 – 18 Y Bala
Mae plant bach Yr Wyddgrug wastad wedi deud ar ôl glanhau eu dannedd a mynd i’w gwlâu, “O Dduw, diolch am dwthdpesd ac am y castell.” Mae hyn yn beth rhyfedd i’w ddeud, ohewydd heblaw am y castell, fase pobol Yr Wyddgrug wedi cael byw mewn heddwch dros y canrifoedd. Dyna pam na fuodd brwydrau gwaedlyd yn Llangywer, Gellioedd a Sarnau – am nad oedd cestyll yno. Sais efo andros o twang, Robert de Montalt, wnaeth adeiladu’r castell yn Yr Wyddgrug, yn 1140, ond mi wnaeth Owain Gwynedd goncro’r lle yn 1146 a sgwatio yno tan i Harri’r Ail ei luchio allan yn 1167. Gwylltiodd hyn Llywelyn Fawr ac ar ôl brwydr waedlyd, cododd ei faner uwchben y castell yn 1201. Gan fod y castell mor bwysig i’r dref, mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi miliwn i bunnoedd iddynt i’w ail-adeiladu fel ei fod eto’n ganolbwynt bywyd y dref. Cafodd y Cyngor syniad gwych – cael castell symudol, fel na fyddai neb yn gallu ei orchfygu a bod modd ei guddio mewn lock-up yn rhywle pan fyddai’r gelyn yn ymosod. Prynwyd castell bownsio anferthol, un gwyrdd, state of the art, ac fe’i gosodwyd tu allan i’r clwb rygbi ddydd Sadwrn, fel rhan o ddathliadau teulu’r clwb, ac hefyd i godi ofn ar dîm Y Bala. Roedd Gwgs, hyfforddwr Y Bala, wedi rhybuddio ei dîm y basent yn treulio’r pnawn yn bownsio ar y catell tasen nhw ddim yn gwella eu perfformiad ar ôl colli tair gêm yn olynol.
Roedd y castell bownsio’n rhoi hyder i dîm Yr Wyddgrug ac roeddent yn chwarae rygbi agored, gyda’u rhif 10 yn rheoli’r chwarae a’u cefnwyr yn rhedeg yn bwrpasol. Ond wnaeth Y Bala ddim ildio modfedd ac wrth iddynt ddod mewn i’r gêm, roedd Ilan Talybont yn gawr efo’r bêl yn ei ddwylo ac asgellwr Yr Wyddgrug yn difaru’i enaid iddo drio ei daclo. Roedd Y Bala’n gwneud llai o gamgymeriadau dydd Sadwrn ac roedd Telor, fel cefnwr, yn ddiogel dan y bêl uchel. Y Bala aeth ar y blaen wrth i Dion roi cic drwodd a chefnwyr yr Wyddgrug yn gwneud smonach ohoni a Rhydian yn gynt na phawb i sgorio cais. Daeth gweddill ceisiadau Y Bala o waith da’r blaenwyr, gyda Llion yn sgorio ar ôl i sgrym Y Bala wthio’r Wyddgrug yn eu holau hanner milltir. Mathew Bevan gafodd y trydydd cais, o sgarmes symudol, ar ôl iddynt ennill lein wrth linell gais Yr Wyddgrug. Ciciodd Telor benalti i wneud y sgôr yn ddeunaw yr un. Arwyddion fod Y Bala wedi troi’r gornel ar ôl dechrau simsan i’r tymor. Yr Wyddgrug fydd y gwrthwynebwyr eto’r wythnos nesaf yn y gwpan, ond y tro yma bydd y gêm yn Y Bala – ma’ ‘ne si ar led bod Yr Wyddgrug am ddod â’u castell efo nhw. Dowch draw i weld, ond gadewch eich bwa saeth adre, rhag ofn ichi fyrstio castell gwerth miliwn o bunnoedd.
Gohebydd y Wasg

Match details

Match date

Sat 22 Sep 2018

Kickoff

14:30

Competition

Division 1 North

League position

1
Bala RFC
8
Mold RFC
Team overview
Further reading

Team Sponsors

Plas Coch Hotel - Plas Coch Hotel
Builder - Eryl Roberts
Club Sponsor - Gwyn Roberts Construction a'i fab