News & EventsLatest NewsCalendar
Clwb 100 Corona 100 Club

Clwb 100 Corona 100 Club

Tomos Hughes27 May 2020 - 20:00
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Clwb 100 Corona 100 Club

Yn dilyn yr adborth positif a gawsom ar ôl ein gwaith diweddar yn diolch i unigolion am eu gwaith yn y gymuned, ac am ein cyfraniad tuag y banc bwyd lleol yn ystod y pandemig, mae yno lawer o bobl wedi bod yn holi ynglŷn â beth y gallwn ni fel clwb ei wneud nesa. Roeddem yn meddwl y buasai’n syniad da cychwyn Clwb 100, cyfle i godi arian ar gyfer achosion da, ir enillydd a’r clwb hefyd. Byddai hyn hefyd yn rhywbeth y gall pobl edrych ymlaen ato.

Dim ond am gyfnod byr y bydd y Clwb 100 yn bodoli, gan ein bod ni wedi ei drefnu mewn i 5 gêm i ddechrau, gyda phob gêm yn digwydd bob pythefnos.

Mi fydd y gêm gyntaf yn cael ei chynnal ar Ddydd Sul, 7fed o Fehefin, yn fyw ar Facebook.

Dyma’r cyfan sydd angen i chi wybod os ydych am ymuno:

Cewch gyfle i ddewis rhif rhwng 1 a 100 (cyntaf i’r felin fydd hi), ac mi fydd pob rhif yn costio £2. Gallwch yrru pob taliad i cpdaberffraw@gmail.com drwy PayPal (Dewisiwch yr opsiwn Teulu a Ffrindiau).

Gallwch naill ai dalu wrth i chi fynd ymlaen neu mae’n bosib i chi dalu £10 o flaen llaw fel y gallwch chwarae ym mhob gêm. Os na fedrwch chi dalu drwy PayPal, yna mae’n bosib i chi allu talu drwy fynd i’r Swyddfa Bost, Aberffraw- rhaid gwneud bob taliad cyn 5y.h ar ddiwrnod y gêm.

Mi fydd pob gêm yn creu pot gwerth £200. Mi fydd yr enillydd yn ennill £100 a chaiff ef/hi ddewis tuag at ba achos bydd y rhodd o £80 yn mynd, ac yna mi fydd y clwb yn derbyn y £20 sy’n weddill.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni.

--------

Following the positive feedback after our recent work in thanking individuals for their good work in the community and our donation to the local foodbank during this Corona pandemic many people have asked what can we do next. We thought it would be good to start a 100 club where we raise money for a local good cause, the winner and the club as well as creating something that people can look forward too.

The 100 club will only be in place for a short period and we have set it up for 5 draws initially with each draw taking place every two weeks.

The first draw will take place on Sunday 7th of June live on facebook.

If you want to join in here is all you need to know:

Choose a number between 1 and 100 (first come first serve on numbers) cost to play is £2 a number and payment can be made via paypal to cpdaberffraw@gmail.com (please select friends and family)

You can choose to pay as you play in each draw or pay £10 initially to play in each draw. If you cannot pay via paypal there is the opportunity to pay at Aberffraw Post Office - payment must be in by 5pm on the day of the draw.

Each draw will create a pot of £200 with the winner receiving £100 and he/she get's to select to which good cause the £80 goes to with the club getting £20.

If you have any questions please let us know.

Further reading