News & EventsLatest NewsCalendar
Diweddariad / Update

Diweddariad / Update

Tomos Hughes12 Jul 2020 - 18:53
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

CPD Aberffraw yn cytuno i rannu’r cae / CPD Aberffraw agree to groundshare

English below.

Hoffai CPD Aberffraw gadarnhau ein bod ni wedi cytuno i rannu Cae Cynlas gyda Bodorgan Fc tymor nesaf.

Fe gysylltodd Bodorgan Fc gyda ni’n ddiweddar yn egluro nad oedd ganddynt gae i chwarae arno tymor nesaf gan nad oedd eu cartref presenol wedi cyrraedd gofynion y criteria newydd. Roedd hi’n debyg y byddai’r clwb wedi gorfod dod i ben os nad oeddent yn gallu cael gafael ar gae newydd. Yn amlwg, nid oedd hyn yn benderfyniad hawdd i’w wneud i ni fel clwb; yn enwedig am ein bod ni wedi buddsoddi cymaint yn Cae Cynlas dros y ddwy flynedd diwethaf. Ond, fe gytunodd y pwyllgor mai mynd ati i helpu’r clwb lleol oedd y penderfyniad cywir i’w wneud yn enwedig gan mai Bodorgan Fc oedd yn gyfrifol am ein helpu ni yn ystod ein hamser ni yng Nghynghrair Sul drwy adael i ni chwarae ein gemau cartref ar Cae Cob.

Mae’r ddau glwb wedi cael trafodaethau positif ac mae’r ddau wedi arwyddo cytundeb newydd sy’n golygu bod Bodorgan FC yn cael defnyddio Cae Cynlas ar gyfer y tymor newydd.

Dywedodd ein Cadeirydd, Dewi Hughes: “Rydym ni’n falch o allu helpu Bodorgan Fc drwy gytuno eu bod nhw’n cael defnyddio’r cae ar gyfer tymor nesaf. Nid yw’n beth braf gweld clybiau sydd ar fin dod i ben ac felly fe obeithiwn bod y cytundeb yma yn rhoi amser i Bodorgan Fc allu darganfod cartref newydd yn y dyfodol. Dymunwn yn dda i Bodorgan Fc ar gyfer y dyfodol.”

--------

CPD Aberffraw would like to confirm that they have agreed to share their Cae Cynlas home with Bodorgan FC for the coming season.

Bodorgan FC came in contact recently to explain that they didn't have a pitch to play on next season as their current home Cae Cob Malltraeth didn't meet the new criteria. It was a case that it looked like Bodorgan FC would have to fold unless they were able to find a new ground. As a club it clearly wasn't an easy decision for us; especially as we have invested so much in the last 2 years at Cae Cynlas. But the committee agreed that helping a local club out for the coming season was the right thing to do especially as Bodorgan FC helped us out when we started in Sunday League by allowing us to play at Cae Cob.

Both clubs have had positive discussions and have signed an agreement for Bodorgan FC to use Cae Cynlas; we look forward to working with Bodorgan FC for the coming season.

Chairman Dewi Hughes stated: We are glad to help Bodorgan FC and make an exception to share our field for the coming season; it is never easy to see clubs on the brink of folding and we hope that this agreement will give the time needed for Bodorgan FC to find a home for the future. We wish Bodorgan FC well in the new league structure.

Further reading