News & EventsLatest NewsCalendar
Diweddariad CPD Aberffraw Update

Diweddariad CPD Aberffraw Update

Tomos Hughes27 Jun 2020 - 17:17
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs

Diweddariad y clwb ar y gofynion haen 3 / The club's update on the tier 3 criteria

English below.

Hoffai’r Clwb diweddaru pawb ar y canlynol:

Gofynion Haen 3

Mae’r Clwb yn falch iawn yr wythnos hon o gael cadarnhad ein bod wedi cyrraedd gofynion Haen 3, Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Yn 2018 fe wnaeth y Clwb benderfyniad ein bod ni am drio cyflawni gofynion Haen 3 erbyn 2020, ac er bod hyn wedi edrych yn amhosib ar un cyfnod, rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cyflawni’r gwaith mewn amser. Yr oeddem yn siomedig i beidio â chael unrhyw gymorth ariannol yn y cyfnod hwnnw gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ond yr oeddem yn llwyddiannus gyda’n cais am grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, ac yr ydym yn hynod o ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth.
Hoffwn ddiolch i bob unigolyn sydd wedi ein helpu ni dros y blynyddoedd diwethaf boed yn noddwr, chwaraewr, aelod o’r pwyllgor, yn fusnes lleol neu yn un o’r gwirfoddolwyr gwych sydd gennym yn gweithio i’r clwb. Hefyd, hoffem gofnodi ein diolch i Gyngor Cymuned Llanfaelog am eu cefnogaeth ac am ganiatáu prydles 25 mlynedd i ni ar y cae pêl-droed.
Arhoswn yn awr tan y 10fed o Orffennaf er mwyn i ni gael gweld ym mha Gynghrair y byddwn ni yn chwarae ynddi tymor nesaf, sef unai Cynghrair Haen 3 neu yng Nghynghrair Haen 4. Y naill ffordd neu’r llall, rydym yn barod am ddechrau newydd. Hoffwn longyfarch yr holl glybiau eraill a basiodd yr arolygiadau diweddar, a deg yw dweud bod llawer o glybiau wedi gweithion galed ledled Cymru dros y misoedd diwethaf.
Nid ydym yn Glwb sy’n hoff o sefyll yn llonydd, ac felly edrychwn yn awr ar feysydd eraill y gallwn wella, boed ar y cae neu oddi arno, er mwyn sicrhau bod y Clwb mewn sefyllfa pendant wrth i ni baratoi ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Clwb 100
Steve Jenkins oedd yn fuddugol yr wythnos diwethaf ac fe roddodd y wobr elusennol o £80 i Awyr Las, Ysbyty Gwynedd. Cynhelir y gêm nesaf ddydd Sul nesaf am 7 yh, ac mae pob rhif wedi ei werthu erbyn hyn- diolch i bawb sy’n cefnogi’r Clwb 100.

Pools Bach My Scaffolding
Yn anffodus, ni fydd Pools Bach yn dychwelyd cyn dechrau’r tymor nesaf. O ganlyniad i’r cyfyngiadau presennol, teimlwn fel Clwb nad oedd yn briodol i ni ailgychwyn y Pools Bach ar hyn o bryd. Ond, mi fydd y Pools yn dychwelyd tymor nesaf. Diolch yn fawr iawn i MY Scaffolding am gefnogi’r Pools Bach drwy gydol y tymor, ac i’r holl werthwyr am eu gwaith caled bod wythnos. Hefyd, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi prynu Pools Bach yn ystod y tymor gan mai eich cyfraniadau chi sy’n cadw’r Clwb i fynd.
Yr wythnos nesaf, gobeithiwn roi’r newyddion diweddaraf i bawb ar y pwyllgor ynglŷn â strwythur tymor nesaf, yn ogystal â chadarnhau pa aelodau o’r garfan tymor diwethaf fydd yn aros gyda ni ar gyfer y tymor newydd.

Arhoswch Yn Lleol Arhoswch Yn Ddiogel

--------

The club today would like to update everyone on the following:

Tier 3 Criteria
The club are delighted this week to have confirmation that we have reached the FAW Tier 3 Criteria.
In 2018 a decision was made by the club that we wanted to achieve the tier 3 criteria by 2020 and although it looked at one stage impossible we are very proud to have made it in time. We were disappointed not to receive any funding support in that period by the FAW but we were successful with our grant application to the Anglesey Charitable Trust and we are very grateful to the Charitable Trust for their support.
We would like to thank all that have helped us over the last few years from sponsors, players, committee members to local company's and the excellent group of volunteers we have. We would like to place on record our thanks to Llanfaelog Community Council for their support and allowing us a 25 year lease on the football field.
We now wait until July the 10th to see whether we are in the new tier 3 league or the tier 4 league either way we are ready for what will be a fresh start. We would like to congratulate all other clubs that passed the recent inspections; it is fair to say that many clubs have worked tirelessly across Wales.
As a club we never want to stand still and therefore we will now look at other areas we can improve on and off the field for the coming season.

Clwb 100
Steve Jenkins was last week’s winner and he donated the £80 Charity prize to Awyr Las, Ysbyty Gwynedd. The next draw will take place next Sunday at 7pm and all numbers are sold - thank you to all who support the Clwb 100.

My Scaffolding Pools Bach
Unfortunately, Pools Bach will not return before the start of next season. Due to the current restrictions we felt as a club that it wasn't appropriate or feasible to start Pools Bach back at this stage. It will be back next season. Thank you to My Scaffolding for sponsoring Pools Bach during the season and to all sellers for their hard work in selling them on a weekly basis. To everyone that has bought pools bach during the season thank you as this is a huge help to keep the club going.

Next week we hope to update everyone on the Committee structure for the new season as well as confirming who of last season's squad will be staying with us.

Stay Local Stay Safe

Further reading