
Yn anffodus, bu rhaid i’r Clwb wneud penderfyniad anodd iawn yn ddiweddar i dynnu tîm Merched Pwllheli allan o gynghrair Genero Adran North ar gyfer y tymor nesaf.
Nid ar chwarae bach y gwnaethpwyd y penderfyniad i ddisgyn o haen 2. Roedd o’n boenus iawn ildio’n lle ar ôl i bawb gweithio mor galed i gyrraedd y gofynion trwyddedu o fewn y pyramid newydd. Roedd o’n boenus eithriadol ildio lle ar ôl i'r garfan lwyddo tu hwnt i’n gobeithion drwy orffen yn y pumed safle a chael gemau cofiadwy yn erbyn cewri Cardiff City a Swansea City yn y cwpanau.
Bu’n rhaid i’r Clwb wynebu cur pen go iawn dros yr haf wrth chwilio am hyfforddwr trwyddedig. Er gwaetha ymgyrch recriwtio hir ni chafwyd ymgeisydd dilys ac o’r herwydd nid oedd y Clwb yn cyrraedd gofynion trwydded haen 2. Yn ychwanegol, roedd sawl marc cwestiwn am argaeledd y garfan oherwydd galwadau personol ac addysgiadol.
Golyga’n lleoliad daearyddol fod recriwtio hyfforddwyr cymwys a chwaraewyr safonol wastad am fod yn heriol. Dyna pam fod y Clwb wedi penderfynu’n strategol fod rhaid i ni dyfu a datblygu ein talentau ein hunain, os am ddyfodol diogel a llewyrchus.
Yn hytrach na chroesi bysedd a gobeithio am y gorau, roedd rhaid bod yn realistig. Dyna pam y gwnaethpwyd y penderfyniad poenus i ddisgyn un haen, a gwneud cais i chwarae yng Nghynghrair Merched Gogledd Cymru.
Diolch i’n cais llwyddiannus rydym wedi sicrhau mwy o amser a lle i’r Clwb daclo’r heriau hyfforddi, gweinyddu a chwarae sy’n wynebu clybiau sydd yn dyheu i chwarae ar y lefelau uchaf yng Nghymru. Yn ogystal, gallwn weithio’n galed i dyfu strwythur effeithiol i sicrhau dyfodol cynaliadwy i bêl-droed merched o bob oed ym Mhwllheli a’r cylch
Fel Clwb, roeddem eisoes yn ymwybodol fod y diffyg strwythur yn rhywbeth oedd angen ei daclo. Yn anffodus, daeth hyn y fwy amlwg yn ystod yr haf, gan arwain at y penderfyniad hwn i gamu yn ôl cyn camu ymlaen yn gryfach.
Er bod hwn yn benderfyniad trist, golyga’r profiadau gwerthfawr, a’n uchelgais i fod yn glwb i bawb, fod ni'n benderfynol mai penderfyniad dros dro yw hwn.
Fel Clwb, rydym eisoes yn brysur yn datblygu strwythur a strategaeth hyfforddi newydd gaiff ei gyhoeddi cyn bo hir. Y bwriad yw gwella a chryfhau ymarfer, chwarae a hyfforddi ar gyfer genethod a merched yr ardal er mwyn dychwelyd i’r ail haen cyn gynted â phosib.