TLWS FAW/FAW TROPHY - Caerwys 2-3 Nefyn United

By Nefyn United
6 views
Share via
FacebookTwitter
https://www.pitchero.com/clubs
Report
Dyma adroddiad y gêm fawr p'nawn ddoe Tlws FAW Caerwys 2-3 Nefyn Unedig Be i ‘neud pan rydych 2-0 i lawr hefo ychydig llai na hanner awr i fynd, i lawr i 10 chwaraewr, taith bws o bron i ddwy awr i ffwrdd o adref a pethau ddim i weld yn mynd eich ffordd chi? Dyfalbarhau, ymddiried yn eich cyd chwaraewyr o thorchi llewys. Dyma wnaethpwyd ar gae Lôn yr Ysgol heddiw wrth i Nefyn ddod yn ôl i guro o 3-2 yn Caerwys yn yr ‘FAW Trophy’. Mae yna 13 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i’r ddau dîm chwarae yn erbyn eu gilydd ddiwethaf, ond fe oedd hi’n werth aros am hon. Fe gymerodd y gêm ychydig o amser i setlo wrth i ddau dîm diethr geisio pwyso a mesur eu gilydd fel dau focsiwr ar ddechrau gormest. Yn sydyn daeth Nefyn i weld fod Caerwys yn dîm ifanc trefnus a thaclus oedd yn amlwg yn gweithio'n galed ar eu siap a ciciau gosod. Yn wir dyma sut bu i Gaerwys roi ergyd i Nefyn ddwy waith, un cyn a llall ar ôl hanner amser drwy goliau wedi eu gweithio yn dda gan Jon Edmonds a Theo Woolford. Roedd hi’n teimlo fel bo'r gêm yn llithro trwy ddwylo Nefyn gyda hanner awr i fynd, hyd nes i Dylan Sion noddwyd gan (lan Ambrose Ltd) sgorio yn hyderus o’r smotyn eto yr wythnos yma. Yna daeth y troad mawr yn y gêm, Daniel Roberts noddwyd gan (S Jones Electrical) yn cael ei anfon o’r maes am ei ail gerdyn melyn. Nefyn yn newid ychydig yn eu siap, ac yn sylweddoli nad oed dim i’w golli wedi dod mor bell. Ni stopiodd Guto Sion noddwyd gan (Joan Louise) redeg trwy’r prynhawn, a fe sgoriodd gôl arbennig i gornel uchaf y rhwyd gyda 25 munud ar ôl. Roedd hi’n brynhawn cynnes, llafurus ar gyrff yr hogiau a hyn hefo traean o’r gêm ar ôl hefo 10 dyn, a’r posiblrwydd o hanner awr o amser ychwanegol yn gwneud y crysau glas edrych yn drwm ar ysgwyddau Nefyn. Gyda 13 munud yn weddill, y cyd reolwr Carl Jones noddwyd gan (John Gwyn peintar) yn camu fyny unwaith eto gyda’r gôl dyngedfenol. Gyda chwaraewr y gêm Gwion Ynyr noddwyd gan (Daf Dafis) yn arwain amddiffyn arwrol Nefyn, sicrhawyd lle yn y rownd nesaf. Gyda diolch i Dewi Penlan am dalu i Nefyn fod yn y gystadleuaeth yma, a’r cefnogwyr ddaeth i Gaerwys, edrychir ymlaen i weld os mai cysuron cartref ceir y rownd nesaf ynteu antur ar y lôn unwaith eto. Diolch yn fawr i Gaerwys am y croeso cynnes, a dymunwn pob hwyl iddynt am y tymor i ddod.

Comments