It is with great sadness that NCE Football Club announce the passing of one of their all-time great players, Peter Esau. He was an accomplished and committed left back who graced Parc Emlyn during the 1960's, 70's and 80's, winning a significant number of honours. Having retired from the game, he worked tirelessly as a committee member and volunteer, dedicating his life to the club. Everyone associated with NCE FC, both past and present extend their deepest sympathy to his wife, Rena, his daughters Linda and Mandy and their families. Newcastle Emlyn has lost a true hero and gentleman and Peter will be sadly missed by all.
Gyda thristwch mawr y mae Clwb Pêl-droed CNE yn cyhoeddi marwolaeth un o'u chwaraewyr gorau erioed, Peter Esau. Roedd yn gefnwr chwith medrus ac ymroddedig a serenodd ar Barc Emlyn yn ystod y 1960au, 70au ac 80au, gan ennill nifer fawr o anrhydeddau. Wedi ymddeol o'r gêm, gweithiodd yn ddiflino fel aelod o'r pwyllgor a gwirfoddolwr, gan gyfrannu’n sylweddol at fywyd y clwb. Mae pawb sy'n gysylltiedig â CPD CNE, yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf i'w wraig, Rena, ei ferched Linda a Mandy a'u teuluoedd. Mae Castell Newydd Emlyn wedi colli arwr a gwr bonheddig a bydd pawb yn gweld eisiau Peter yn fawr.