Roedd Cefni ar y blaen 13-5 ar yr hanner, ac mi oedd y Moniars dal ar y blaen 13-12 gyda rhyw 6 munud I fynd! Daeth diwedd are u rhediad o 5 gem heb golli, ond dangosodd y gem yma bod y gagendor oedd yn bodoli rhwng Cefni a`r 3 tim ar y brig , yn brysur culhau. Cofiwn roedd 9 o`r tim gychwynnodd rhwng 18 a 22 oed!!
Gyda mantais y gwynt a sgrym nerthol mi ath y Moniars ar y blaen trwy 2 gic gosb gan Cian Gerrard( CG). Rheng flaen Cefni yn yr hanner cyntaf oedd Bedwyr Williams, Alex Phillips ac Ynyr Jones; a`r 5 cefn y neu cefnogi oedd Twm Tudor, Gethin, Aron Bown , Emyr Jones a Ieuan Evans. Cafodd Pwll hi`n anodd mynd I mewn I 22 Cefni. Y tro 1af iddynt lwyddo, fe`u curwyd gan y jackal a`r ail waith cafodd Emyr Jones gafael yn y bel a rhedeg yn nerthol mas o`r parth coch. Ond mi sgoriwyd y cais 1af gan Pwll.: Gallant ddiolch I Morgan Dryhurst a dorrodd dacl neu 2 ar y llinell hanner a rhedeg mewn I 22 Cefni. Ataliwyd yr ymosodiad ar y dde, ond pan symudwyd y bel nol i`r chwith, tasg reit hawdd oedd gan Owen ap Myrddin I groesi am y cais. 6-5
Aeth CG yn agos iawn gyda cic gosb arall, ond wedyn daeth cyfle I gicio yn ddwfn I 22 Pwll. Ataliwyd y maul o`r llinell, ond torrodd Alex Phillips yn rhydd, ac yn hollol anhunanol fe roddodd y bel I Ieuan Evans cael y pleser I hyrddio drosodd am y cais. Trosiad CG a dyna hi yn 13-5 ar yr hanner.
Roedd talcen caled yn disgwyl y Moniars I mewn i`r gwynt. Serch hynny, cymerodd Pwll o leia 25 munud cyn fedru croesi llinell y Moniars. 3 prif reswm am hynny: taclo cadarn gan yr holl dim, Rhedeg y bel yn ol at Pwll yn galed ac hefyd y sgrym nerthol a barhaodd I ddominyddu ar ol I Rhodri Parry a Tom Prydderch ddod i`r maes. Dylwn ychwanegu ambell I jackal allweddol hefyd !
Gan fod Cefni yn methu cael pellter adeg cicio, roedd Pwll yn dominyddu`r tiriogaeth a`r meddiant. Cynnyddu nath y ciciau cosb yn erbyn Cefni, ac mi ddath yr ail gais I Morgan Dryhurst. Trosiad gan Nick Butterworth a`r sgor yn 13-12. Naeth y cais buddugol Dilyn patrwm yr ail : llinell o fewn 10 medr I lein Cefni, lledu i`r chwith, ail gylchu yn gyflym a cais yn Dilyn. 19-13 gyda 5 munud I fynd. Roedd Cefni dal I ymosod : sawl bylchiad ond neb efo`r gas I fynd yr holl ffordd.
Bydd gem nesa Cefni yn Llandudno Chwefror 15.